Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwyddom y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith aruthrol ar ei ddioddefwyr ac, mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach, os na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mater.

Cyflwynodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 fesurau penodol a gynlluniwyd i roi llais i ddioddefwyr a chymunedau yn y ffordd y mae cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu trin.

Mae hyn yn cynnwys Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a elwid gynt yn sbardun cymunedol, sy'n rhoi'r hawl i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus a riportiwyd i unrhyw un o'r prif asiantaethau cyfrifol (er enghraifft y Cyngor, yr Heddlu, darparwr tai) ofyn am adolygiad achos aml-asiantaeth lle cyrhaeddwyd trothwy lleol.

Mae’n ddyletswydd ar asiantaethau, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, timau iechyd lleol a darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig, i gynnal adolygiad achos pan fydd rhywun yn gofyn am un ac mae eu hachos yn cyrraedd trothwy a ddiffinnir yn lleol. Am ragor o wybodaeth ewch i Adolygu achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB)

Os ydych chi'n teimlo bod eich achos yn cyrraedd y trothwy ar gyfer Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Cymunedol trwy communitysafetyteam@torfaen.gov.uk

Mae yna ddyletswydd ar asiantaethau i gyhoeddi data am nifer yr Adolygiadau Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gafwyd, faint a gyrhaeddodd y trothwy, a'r nifer a arweiniodd at gamau pellach. Diben hyn yw sicrhau tryloywder y system ac nid barnu perfformiad yr asiantaethau mewn perthynas â gwaith achos ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Nifer y Ceisiadau am Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gafwyd

Ebrill 2024 - Mawrth 2025

  • nifer y ceisiadau am Adolygiadau Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gafwyd: Un
  • nifer o weithiau na chyrhaeddwyd y trothwy ar gyfer adolygiad: Un
  • nifer yr adolygiadau achos a gynhaliwyd: Dim
  • nifer yr adolygiadau achos a arweiniodd at gynnig argymhellion: Amherthnasol

Ebrill 2023 - Mawrth 2024

  • nifer y ceisiadau am Adolygiadau Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gafwyd: Dau
  • nifer o weithiau na chyrhaeddwyd y trothwy ar gyfer adolygiad: Dim
  • nifer yr adolygiadau achos a gynhaliwyd: Dau
  • nifer yr adolygiadau achos a arweiniodd at gynnig argymhellion: Dau

Ebrill 2022 - Mawrth 2023

  • nifer y ceisiadau am Adolygiadau Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gafwyd: Tri
  • nifer o weithiau na chyrhaeddwyd y trothwy ar gyfer adolygiad: Un
  • nifer yr adolygiadau achos a gynhaliwyd: Dau
  • nifer yr adolygiadau achos a arweiniodd at gynnig argymhellion: Dau
Diwygiwyd Diwethaf: 28/04/2026 Nôl i’r Brig