Loterïau Cymdeithasau Bach

Beth yw loteri?

Enw arall ar loteri yw raffl neu gystadleuaeth ‘tynnu’r buddugol o’r het’. Ni ellir ei redeg er budd preifat na masnachol. Mae’r diffiniad hefyd yn cynnwys cystadlaethau ‘agor y bocs’ yn ogystal â tôts sydd yn aml yn cael eu cynnal mewn clybiau i aelodau.

Mae yna 3 elfen i loteri:

  • mae gofyn i bobl dalu i gymryd rhan
  • caiff un wobr neu fwy eu dyrannu i unigolyn neu fwy nag un unigolyn
  • caiff y gwobrau eu dyrannu trwy broses sy’n dibynnu’n gyfan gwbl ar siawns

Diffinia Adran 19 Deddf Gamblo 2005 ‘gymdeithas’ yn un felly os yw wedi ei sefydlu a’i weithredu:

  • at ddibenion elusennol
  • at ddiben galluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, athletau neu weithgaredd diwylliannol, neu eu cefnogi
  • at unrhyw ddiben anfasnachol arall ac eithrio er budd preifat

Y broses ymgeisio a chofrestru

Rhaid bod y gymdeithas yn un ‘anfasnachol’. Mae Hyrwyddo loterïau cymdeithasau ac awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd am redeg loterïau cymdeithasau bach a mawr. Mae Trefnu loterïau bach yn rhoi cyngor ar loterïau sydd wedi eu heithrio ac sydd ddim angen trwydded neu gofrestru.

Rhaid bod cyfanswm gwerth y tocynnau i’w gwerthu ar gyfer pob loteri unigol yn £20,000 neu lai, neu fod cyfanswm gwerth y tocynnau i’w gwerthu ar gyfer yr holl loterïau, gyda’i gilydd, mewn blwyddyn galendr, heb fod yn fwy na £250,000.

Rhaid i’r gymdeithas gyflwyno cais i’r awdurdod lleol ble mae prif swyddfa’r gymdeithas wedi’i lleoli. Gellir lawrlwytho copi o Ffurflen Gais Loterïau Cymdeithasau Bach yma.

Y ffi ymgeisio yw £40. Dylai unrhyw siec fod yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen’ neu ‘TCBC’.

Fe fydd ffi flynyddol o £20. Bydd y ffi’n daladwy ar y dyddiad sydd flwyddyn union i’r dyddiad cofrestru, neu cyn y dyddiad hwn.

Gall awdurdod lleol wrthod cofrestru loteri cymdeithas fach yn yr achosion canlynol:

  • Di-rymwyd trwydded weithredu gan y sawl sy’n ymgeisio i gofrestru neu gwrthodwyd cais am drwydded weithredu gan y sawl sy’n ymgeisio i gofrestru, o fewn y pum mlynedd ddiwethaf.
  • Ni ellir ystyried y gymdeithas dan sylw fel un anfasnachol.
  • Cafwyd rhywun a fydd yn gysylltiedig â hyrwyddo’r loteri, neu rywun a allai fod yn gysylltiedig, ei g/chael yn euog o drosedd berthnasol.
  • Darganfyddir bod gwybodaeth a ddarparwyd yn y cais i gofrestru, neu gyda’r cais, yn ffug neu’n gamarweiniol.

Cyfyngiadau a osodir ar loterïau cymdeithasau bach

Rhaid bod o leiaf 20% o elw’r loteri’n cael ei ddefnyddio at ddibenion y gymdeithas.

Ni all unrhyw wobr unigol fod werth mwy na £25,000.

Caniateir cario gwobrau/symiau ymlaen o un loteri i’r nesaf dim ond ble mae pob loteri sy’n gysylltiedig hefyd yn loteri cymdeithas fach a hyrwyddir gan yr un gymdeithas, ac uchafswm unrhyw wobr unigol yw £25,000.

Rhaid i bob tocyn yn y loteri gostio’r un faint a rhaid i’r gymdeithas gymryd taliadau am ffi’r tocyn cyn y caniateir cystadlu.

Ffurflenni hysbysu

Mae gofyn i’r gymdeithas anfon ffurflenni hysbysu at yr awdurdod lleol yn dilyn pob loteri a dynnir gyda manylion:

  • y trefniadau ar gyfer y loteri – yn benodol, y dyddiad yr oedd y tocynnau ar gael i’w gwerthu neu gyflenwi, dyddiadau unrhyw loteri a dynnir a gwerth y gwobrau, gan gynnwys unrhyw wobrau a roddwyd ac unrhyw beth sy’n cario drosodd
  • cyfanswm elw’r loteri
  • y symiau a dynnwyd gan hyrwyddwyr y loteri i ddarparu gwobrau, gan gynnwys gwobrau sy’n cyd-fynd ag unrhyw symiau a gariwyd drosodd
  • y symiau a dynnwyd gan hyrwyddwyr y loteri mewn perthynas ag unrhyw gostau a gododd wrth drefnu’r loteri
  • y swm a ddefnyddiwyd at y dibenion y caiff y gymdeithas sy’n hyrwyddo’r loteri ei rhedeg (rhaid bod hyn o leiaf 20% o’r elw)
  • a oedd unrhyw gostau a gododd mewn cysylltiad â’r loteri heb eu talu gydag arian a dynnwyd o’r elw ac, os felly, faint o’r costau a pha ffynhonnell a ddefnyddiwyd i’w talu.

Rhaid anfon y ffurflenni at yr awdurdod trwyddedu heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad y tynnwyd y loteri.

Rhaid cael 2 aelod o’r gymdeithas i lofnodi’r ffurflenni a rhaid bod y 2 aelod wedi eu hawdurdodi i wneud hynny.

Gallwch lawrlwytho copi o Ffurflen Hysbysu Loterïau Cymdeithasau Bach yma.

Tocynnau loteri

Os roddir tocynnau ar gyfer loteri, yna rhaid i bob tocyn nodi:

  • enw’r gymdeithas sy’n hyrwyddo
  • pris y tocyn
  • enw a chyfeiriad aelod y gymdeithas sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r loteri
  • y dyddiad y tynnir y loteri, neu wybodaeth sy’n galluogi rhywun i wybod pryd mae’r loteri’n cael ei thynnu

Dim ond pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sy’n cael gwerthu tocynnau loteri a dim ond pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sy’n cael eu prynu.

Gwobrau

Gall gwobrau a roddir mewn loterïau cymdeithasau bach fod yn arian neu’n rhywbeth arall.

Troseddau penodol mewn perthynas â loterïau

Mae’r Ddeddf yn nodi nifer o droseddau sy’n berthnasol i loterïau:

Troseddau penodol sy’n ymwneud â loterïau

Specific offences in relation to lotteries
Adran y DdeddfTrosedd
a.258 Hybu loteri sydd heb ei heithrio heb drwydded
a.259 Hwyluso loteri sydd heb ei heithrio heb drwydded
a.260 Camddefnyddio elw loteri
a.261 Camddefnyddi elw loteri sydd wedi’i heithrio
a.262 Gweithredu loteri cymdeithas fach heb gofrestru, neu fethu â chyflwyno’r ffurflenni angenrheidiol, neu roi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar y ffurflenni, ar gyfer loteri o’r fath
a.326 Heb esgus rhesymol, rhwystro neu fethu â chydweithredu gyda rhywun awdurdodedig sy’n ymddwyn yn ôl ei hawliau
a.342 Heb esgus rhesymol, rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r Comisiwn neu awdurdod trwyddedu

Loterïau Sydd Wedi’u Heithrio

Dyma’r mathau o loterïau sydd ddim angen trwydded:

  • Loterïau anfasnachol achlysurol – a gynhelir yn aml mewn digwyddiadau codi arian elusennol
  • Loterïau preifat – sy’n cynnwys:
    • loterïau cymdeithasau preifat – dim ond aelodau’r gymdeithas a’r rheiny ar safle’r gymdeithas sy’n gallu cymryd rhan yn y loteri
    • loterïau gwaith – dim ond pobl sy’n cydweithio ar yr un safle sy’n gallu cymryd rhan
    • loterïau trigolion – dim ond pobl sy’n byw yn yr un lle sy’n gallu cymryd rhan
    • loterïau cwsmeriaid – dim ond cwsmeriaid ar y safle busnes sy’n gallu cymryd rhan

Cystadlaethau am Wobrau a Chystadlaethau Am Ddim

Mewn cystadlaethau am wobrau, mae llwyddiant yn dibynnu’n rhannol ar sgil, barn neu wybodaeth y sawl sy’n cymryd rhan ac nid yw’n dibynnu ar siawns.

Mewn loteri, mae gofyn i gyfranogwr dalu i gymryd rhan. Mae gwybodaeth bellach yma.

Os oes unrhyw gwestiynau pellach gennych, neu os nad ydych yn siŵr a ydych chi angen cofrestru loteri cymdeithas fach, cysylltwch â’r tîm trwyddedu ar 01633 647286.

Oriau Agor y Swyddfa

Yr oriau agor ar gyfer y rheiny sydd am alw heibio i’r swyddfa yn y Dafarn Newydd i weld y tîm trwyddedu yw dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:00yb a 12:00 hanner dydd. Os yw hyn yn anodd, mewn amgylchiadau eithriadol gellir gwneud apwyntiad i alw heibio tu allan i’r oriau hyn. Cysylltwch â’r swyddfa i drefnu hyn. Rydyn ni ar gael ar y rhif ffôn 01633 647286 rhwng 9:00yb a 4:30yp.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig