Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol

Disgrifiad:

Bydd y cwrs e-ddysgu ar-lein yma, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, yn edrych ar y prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a’u defnydd fel teclynnau marchnata.

 

Yn arbennig, byddwn yn edrych ar Facebook, Instagram a LinkedIn.
Bydd y cwrs e-ddysgu ar-lein Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol yn cynnwys y prif fanteision i fusnesau, ynghyd â dysgu sut all y cyfryngau cymdeithasol gynnig mwy o fewnwelediad i’r farchnad a helpu i sefydlu eich cwmni fel un dylanwadol.

 

Bydd y cwrs ar-lein Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol yn trafod y sectorau sy’n defnyddio marchnata cyfryngau cymdeithasol fwyaf – adloniant, eiddo, recriwtio, ffordd o fyw a theithio, iechyd a ffitrwydd a ffasiwn a harddwch.

 

Bydd y cwrs ar-lein Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i ddechrau marchnata cyfryngau cymdeithasol, a sut i ddewis y llwyfannau cywir. Byddwch yn gweld sut mae cynnal ymgyrchoedd gyda chynnwys gwych a deunydd gweledol cymhellol, a mesur effeithlonrwydd eich ymgyrchoedd.

 

Bydd y cwrs e-ddysgu Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol yn dangos i chi sut i greu Polisi Cyfryngau Cymdeithasol, a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cyfathrebu mewnol.

 

Byddwch yn dysgu sut i gynnwys y cyfryngau cymdeithasol yn eich ymgyrchoedd recriwtio, a hyfforddi staff i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’ch cwmni.

 

Mae diogelwch ar-lein yn hanfodol a byddwn yn ymdrin â’r agweddau sylfaenol y mae angen i bawb eu gwybod.

 

Yn olaf, yn ystod y cwrs e-ddysgu Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol byddwch yn dysgu sut i drin adborth negyddol a throliau yn y cyfryngau cymdeithasol a dull T-E-A o drin cwynion yn llwyddiannus.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/12/2023
Dyddiad Gorffen:
04/12/2025
Expiry Date:
04/12/2028
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2023 Nôl i’r Brig