Datrys Problemau yn y Gweithle

Disgrifiad:

Mae’r cwrs e-ddysgu ar-lein yma, Datrys Problemau yn y Gweithle’n cynnwys amrywiaeth o broblemau sy’n digwydd yn y gweithle – a sut allan nhw gael eu hadnabod, eu rheoli a’u datrys.

 

Mae’r cwrs ar-lein Datrys Problemau yn y Gweithle’n canolbwyntio ar y tri phrif faes ble gall problemau godi - pobl, tasgau ac adnoddau.

 

Bydd y cwrs e-ddysgu yma’n pwysleisio y gall Problemau gyda phobl gynnwys gwrthdaro personoliaethau, ymddygiad peryglus, sarhaus neu anghyfreithlon, cyfathrebu gwael a gwahaniaethau barn.

 

Bydd y cwrs e-ddysgu Datrys Problemau yn y Gweithlu’n eich dysgu chi am y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a sut mae’n berthnasol i wahaniaethu.

 

Bydd yna edrych ar wastraffu amser yn ystod y cwrs yma, Datrys Problem yn y Gweithlu, gan ganolbwyntio ar faterion fel gwastraffu amser oherwydd camau unigol a systemau gwaith wedi eu trefnu’n wael – a sut i sicrhau bod amser gwaith yn cael ei dreulio’n gynhyrchiol.

 

Bydd problemau gydag adnoddau, fel diffyg deunyddiau craidd neu offer, yn cael eu trafod yn ystod y cwrs ar-lein Datrys Problemau yn y Gweithle.

 

Bydd y cwrs e-ddysgu Datrys Problemau yn y Gweithle yn eich helpu i ganfod y ffyrdd y gall problemau gael eu datrys gan reolwyr, cyflogeion a sefydliadau allanol.

 

Yn olaf, bydd y cwrs ar-lein Datrys Problemau yn y Gweithle yn edrych ar y defnydd o gyflafareddiad, negodi, cyfaddawdu, cymodi a chyfryngu i ddatrys anghydfodau – a’r nifer o fanteision y gall y datrysiadau yma ddod â nhw i’r gweithle.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/12/2023
Dyddiad Gorffen:
04/12/2025
Expiry Date:
04/12/2028
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2023 Nôl i’r Brig