Iechyd a Lles Galwedigaethol

Disgrifiad:

Mae’r cwrs e-ddysgu yma, Rheoli Iechyd Galwedigaethol, yn esbonio’r elfennau allweddol, y gweithdrefnau a’r gweithgareddau sydd ynghlwm wrth Reolaeth Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yn y gweithle.


Mae’r cwrs ar-lein Rheoli Iechyd Galwedigaethol yn dangos sut mae Rheolaeth Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol proffesiynol o fudd i unigolion a sefydliadau.

 

Bydd y cwrs ar-lein Rheoli Iechyd Galwedigaethol yn edrych ar fodelau iechyd yn y gweithle, gan gynnwys meini prawf sylfaenol model Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd Asesiad Anghenion Iechyd a sut mae’n arwain ar ddatblygiad Strategaeth Rheolaeth Iechyd.

 

Ar lefel mwy ymarferol, bydd y cwrs e-ddysgu Rheoli Iechyd Galwedigaethol yn edrych ar beryglon, risgiau, rheolaethau a ‘Systemau Gwaith Diogel’ a rôl asesiadau risg iechyd.

 

Gan droi at les yn y gweithle, byddwn yn esbonio sut i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac iechyd meddyliol cadarnhaol.

 

Byddwch yn dysgu o’r cwrs ar-lein Rheoli Iechyd Galwedigaethol sut i reoli absenoldebau o’r gwaith, awdurdodedig a heb awdurdod, sut i greu Polisi Presenoldeb swyddogol, rheoli’r broses dychwelyd i’r gwaith a delio mewn ffordd effeithiol ag absenoliaeth.

 

Yn olaf, bydd y cwrs e-ddysgu Rheoli Iechyd Galwedigaethol yn trafod y camau y mae eu hangen i ddatblygu diwylliant cryf iechyd a lles, gan gynnwys arweinyddiaeth, cyfathrebu, cydbwysedd bywyd a gwaith a chofleidio newid.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/12/2023
Dyddiad Gorffen:
04/12/2025
Expiry Date:
04/12/2028
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2023 Nôl i’r Brig