Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Disgrifiad:

Bydd tua 25 y cant o boblogaeth y DU yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau.  Mae’r rhan fwyaf yn fwyn, yn tueddu i fod yn rhai tymor byr ac yn cael eu trin yn llwyddiannus gyda therapi a meddyginiaeth.

Ond mae’n dal i fod yn broblem sylweddol. Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn dysgu sut i sylwi ar a chefnogi unigolion a allai fod yn profi problemau iechyd meddwl neu sy’n dangos arwyddion o ddefnyddio sylweddau yn y gwaith.  Maen nhw hefyd yn cael eu dysgu sut i gysylltu’r bobl hynny â chymorth gan gyflogeion eraill, adnoddau cymunedol neu bobl broffesiynol mewn gofal iechyd.

Bydd y cwrs e-ddysgu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar-lein yma’n cyflwyno’r pwnc ac yn amlinellu buddion cynlluniau cymorth cyntaf Iechyd Meddwl a lles gweithlu.  Bydd y cwrs ar-lein Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ymdrin ag effeithiau straen ar unigolion a thimau ac yn trafod sut mae straen ac iechyd meddwl yn gysylltiedig.  Bydd y cwrs wedyn yn cynnwys rôl cyflogwyr, rheolwyr a chyflogeion wrth sicrhau bod rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn llwyddiannus.

Mae’r cwrs e-ddysgu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn gorffen gyda chyfres o enghreifftiau ymarferol o sut i roi cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn sefyllfaoedd go iawn, cefnogi cyflogeion sydd â phroblemau iechyd meddwl a ble i’w cyfeirio ar gyfer cymorth a chyngor pellach.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/12/2023
Dyddiad Gorffen:
04/12/2025
Expiry Date:
04/12/2028
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2023 Nôl i’r Brig