Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2- Highfields
Dysgu ar-lein mewn ffordd hyblyg gydag asesiad wyneb yn wyneb
Cyfle i feithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu a gwybodaeth broffesiynol gyda’n cwrs Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2, dan ofal Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â chwsmeriaid, neu'n paratoi ar gyfer rôl o’r fath, yn cynnwys manwerthu, gweinyddiaeth, gwaith derbynfa, lletygarwch, iechyd neu leoliadau gwirfoddol a chymunedol. Mae hefyd yn addas i sefydliadau sy'n dymuno cefnogi gweithwyr neu gleientiaid i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle.
Sut mae'r cwrs yn gweithio
Bydd y dysgu yn digwydd ar-lein a hynny ar eich cyflymder eich hun, felly’n eich galluogi i astudio o amgylch gwaith, cyfrifoldebau gofalu neu ymrwymiadau eraill. Unwaith y byddwch chi'n barod, byddwch yn dod i un o'n canolfannau i gwblhau asesiad byr, amlddewis mewn lleoliad cefnogol, personol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol a hyder mewn meysydd fel:
- Deall gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
- Diwallu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid
- Datrys problemau a phroffesiynoldeb yn y gweithle
Opsiynau o ran arddull
- Cymhwyster Lefel 2 achrededig (tystysgrif)
- Opsiwn heb ei achredu ar gael
- Opsiwn wedi ei deilwra neu fesul grŵp i gyflogwyr, sefydliadau neu wasanaethau cymorth (gellir trafod opsiynau wyneb yn wyneb, ar-lein neu gyfuniad)
Rydym yn hapus i deilwra’r arddull i weddu i grwpiau penodol, gan gynnwys meithrin hyder, cymorth cyflogadwyedd neu uwchsgilio'r gweithlu.
Asesu
- Un arholiad amlddewis
- Sefyll yr arholiad wyneb yn wyneb yn un o ganolfannau Dysgu oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen
- Codir tâl ar wahân os oes angen ail-sefyll
Cost
£62.50 – Codir tâl ar wahân os oes angen ail-sefyll.
Diddordeb?
I gael gwybod mwy, trafod opsiynau o ran arddull, neu i ddangos diddordeb:
01633 875929
course.enq@torfaen.gov.uk
Bydd ein tîm yn hapus i drafod eich opsiynau.