Ymwybyddiaeth Amgylcheddol

Disgrifiad:

Bwriad y cwrs ar-lein yma yw cynyddu eich ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol sylweddol a chyflwyno systemau rheolaeth amgylcheddol.

Bydd yn dechrau trwy ddiffinio termau pwysig a nodi’r materion amgylcheddol allweddol sy’n wynebu’r byd.

Byddwch yn dysgu am effeithiau amgylcheddol, a bydd y cwrs yn edrych ar bwnc newid hinsawdd fyd-eang, gan gynnwys nwyon tŷ gwydr, carbon, glas asid a cholli bioamrywiaeth.

Mae yna wybodaeth hefyd am y prif gyfreithiau amgylcheddol, a byddwn yn cynnwys systemau Rheolaeth Amgylcheddol a’u manteision busnes.

Mae pynciau eraill yn cynnwys cylchred bywyd nwyddau, cyfrifoldeb corfforaethol a chymdeithasol, ynni adnewyddol ac nid yn adnewyddol a thri philer cynaliadwyedd.

Bydd y cwrs hefyd yn trafod sut gall gwastraff gael ei reoli a’i leihau gan benderfyniadau a chynlluniau Gwastraff i Ynni.

Byddwch yn cael eich tywys trwy’r hierarchaeth rheolaeth gwastraff, sy’n disgrifio’r camau y gall cynhyrchwyr gwastraff masnachol gymryd er mwyn rheoli gwastraff.

 

Yn olaf, byddwn ni’n ymdrin â rheolaeth adnoddau dŵr a storio olew. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio ar gyfer argyfwng gorlif sylweddau peryglus a’r ffordd gywir o gwblhau adroddiad gorlifoedd.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/12/2023
Dyddiad Gorffen:
04/12/2025
Expiry Date:
04/12/2028
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2023 Nôl i’r Brig