PN180 - Hysbysiad Preifatrwydd Ffurflen Teithiau Preswyl
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny, a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Gofal Cymdeithasol
Maes Gwasanaeth: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Manylion Cyswllt: Sophie.Jenkins@torfaen.gov.uk
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Ffurflen Teithiau Preswyl
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae'r tîm Gofal Cymdeithasol yn trefnu teithiau a digwyddiadau i'r rhai sy'n defnyddio’r gwasanaeth ac yn dymuno cymryd rhan.
Pwy sy’n darparu eich data i’r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu'n uniongyrchol gennych chi i sicrhau bod eich plentyn yn gallu mynd ar daith breswyl yn ddiogel, a, lle bo angen, i gefnogi’ch plentyn i fod mewn grŵp gyda phlant eraill, yn ogystal â sicrhau bod offer/dillad yn gywir, a bod gennym y data cywir a mwyaf diweddar
Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?
- Ffurflenni ar-lein
- Ffotograffau
- Astudiaethau achos (dienw)
Pa wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn casglu:
- Gwybodaeth bersonol fel; manylion cyswllt, unrhyw wybodaeth feddygol, oedran, dyddiad geni, dewisiadau.
Pam mae’r Cyngor yn prosesu eich data personol?
Dan Erthygl 6, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(a) Eich caniatâd.
(e) Mae arnom ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.
Categorïau Arbennig o ddata personol
Rydym yn casglu'r data categori arbennig a ganlyn.
- data sy'n ymwneud ag iechyd
- data sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
Rydym yn ei gasglu dan Erthygl 9 GDPR y DU.
A/NEU
Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10, GDPR y DU.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Mae eich data’n cael eu rhannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol, pan fydd ei angen arnynt i gyflawni eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda sefydliadau. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Y Bartneriaeth Awyr Agored
- Grŵp YMCA Fairthorne Manor (Gŵyl Gofalwyr Ifanc)
- Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru
- Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
Ar wahân i ble a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod hyn yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Nac ydy
Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael eu storio’n ddiogel mewn:
Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, mae’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae dyletswydd cyfrinachedd hefyd yn berthnasol i’r trydydd parti hwn ac mae'n ofynnol iddynt ddilyn mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba hyd mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiro - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Symud data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod y canlyniad os byddwch yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch â: Sophie Jenkins, Sophie.jenkins@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Rhif ffôn 0330 414 6421 neu e-bost: Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 01/06/2026
Nôl i’r Brig