PN165 - Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Ymyrraeth Gynnar
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch chi, sut rydym yn eu defnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’r data a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w diogelu.
Maes Gwasanaeth CBST: Atal ac Ymyrraeth Gynnar
Maes Gwaith: Oedolion a Chymunedau
Manylion Cyswllt: Kelly Wools
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Atal ac Ymyrraeth Gynnar
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae'r Cyngor yn prosesu data i ddarparu gwasanaethau wedi'u teilwra i anghenion eich teulu, fel darparu cymorth Atal ac Ymyrraeth Gynnar. Wrth gasglu eich data, mae’n helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i gydlynu cymorth ar draws asiantaethau mewnol ac allanol, gan sicrhau eich bod chi a/neu'ch plentyn yn derbyn gwasanaethau di-dor a chynhwysfawr.
Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni yn uniongyrchol gennych pan fyddwch chi'n cyrchu'r EIP.
Ac
Rydyn ni hefyd yn cael gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol; gan y darparwyr gwasanaeth yr ydyn ni’n ymgysylltu â nhw fel rhan o'r broses EIP.
Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, mae'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn cael ei nodi ar ffurflen. Pan fydd angen rhagor o wybodaeth i asesu eich anghenion, byddwn yn cysylltu â chi ac yn ychwanegu’r wybodaeth at y cofnod.
Pan fyddwn yn eich cyfeirio at adran neu ddarparwr, byddwn hefyd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth, i werthuso'r gwasanaeth
Pa wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Bydd y tîm Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn casglu’r wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen i werthuso eich anghenion a darparu'r gwasanaeth priodol a hynny’n unig. Gall hyn gynnwys y canlynol ond heb ei gyfyngu iddynt:
- Manylion cyswllt (enw/cyfeiriad/ffôn/e-bost)
- Dyddiad geni
- Rhifau cyfeirnod eraill (e.e., rhif y GIG, rhif Yswiriant Gwladol, unrhyw rif system/gwasanaeth)
Yn dibynnu ar eich anghenion efallai y byddwn hefyd yn casglu:
- Manylion cyflogaeth/Gwybodaeth ariannol/budd-daliadau cyfredol
- Statws priodasol
- Gwybodaeth am droseddau/hanes cyfreithiol perthnasol
- Anghenion cymorth, gwasanaethau cymorth cyfredol
- Manylion y teulu, hanes personol/proffil personol
Pam y mae'r Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw
Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.
Data personol categori arbennig
Efallai y byddwn yn casglu’r data a ganlyn o gategorïau arbennig a rhoddwyd gennych chi:
- ddata personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- data personol sy’n datgelu barn wleidyddol
- data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
- data sy’n ymwneud ag iechyd
- data sy’n ymwneud â bywyd rhywiol unigolyn
- data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
Rydyn ni’n casglu’r data hwn dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Pan fyddwn yn casglu ‘data troseddol’, bydd hyn yn cael ei brosesu yn unol ag Erthygl 10 GDPR y DU.
Pwy sy’n cael mynediad at eich data?
Mae eich data yn cael eu rhannu'n fewnol gyda'r staff priodol yn unig, pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda sefydliadau fel y gallant ddarparu gwasanaeth pwrpasol ar eich cyfer. Gall y rhain gynnwys y canlynol ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt:
- Tîm Ymyrraeth Gynnar, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - Gwasanaethau sy'n ymwneud â darpariaeth ataliol a ddarperir gan y Cyngor yn uniongyrchol. Gwasanaethau statudol a ddarperir lle nodwyd anghenion
- Tai Cymunedol Bron Afon - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Pobl - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Cymorth i Fenywod - Cyfannol - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Platfform For change - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Y Wallich - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Stori Cymru - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- LLamau - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Sipsiwn a Theithiwr Cymru - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- GDAS - Gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai
- Cyngor ar Bopeth Torfaen - Cymorth sy'n gysylltiedig â Thai a Dyled , gwasanaethau eiriolaeth a chyngor
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo allan o’r DU ?
Nac ydy
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:
- System Rheoli Cofnodion Data Electronig y Cyngor
- System rheoli achosion a gaffaelir gan y Cyngor
Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti dan sylw ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n ofynnol iddynt ddilyn mesurau priodol i sicrhau bod y data’n ddiogel.
Am ba hyd mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol, a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 7 mlynedd.
Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/ proffilio gyda'ch data?
Nac ydyn
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Yr hawl i fynediad – i gael copi o’ch data ar gais
- Yr hawl i gywiro – ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor newid data sy’n anghywir neu’n anghyflawn
- Yr hawl i wrthwynebu, cyfyngu neu ddileu – o dan rai amgylchiadau gallwch ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddileu eich data, neu i beidio â’i brosesu, er enghraifft pan nad yw’r data’n angenrheidiol mwyach at ddibenion prosesu
- Yr hawl i gludo data – i gael a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (lle rhoddwyd caniatâd)
- Yr hawl i wybod beth yw canlyniadau methu â rhoi data i’r Cyngor
- Yr hawl i gael gwybod am unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a chanlyniadau hyn i chi.
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw rhai o’r hawliau hyn, cysylltwch â’r tîm rheoli Ymyrraeth Gynnar ar simon.rose@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost: Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 19/01/2026
Nôl i’r Brig