PN123 - Hysbysiad Preifatrwydd Y Gwasanaeth Chwarae - Ffeiliau Staff a Gwirfoddolwyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Y Gwasanaeth Chwarae
Manylion Cyswllt:  Julian Davenne – 01495 742952
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Y Gwasanaeth Chwarae – Ffeiliau Staff a Gwirfoddolwyr

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu drwy'r broses recriwtio ac yn cael ei chadw trwy gydol yr amser y bydd y gweithiwr yn ymwneud â’r gwasanaeth.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu'n uniongyrchol gan y gweithiwr

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth?

Mae’r gweithiwr yn llenwi ffurflenni recriwtio (electronig neu ar bapur) yn rhan o broses recriwtio diogel y Cyngor. Yna, mae’r Gwasanaeth Chwarae yn cadw manylion sylfaenol eich cyswllt mewn argyfwng yn ddiogel mewn cronfa ddata electronig.

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Gwasanaeth Chwarae yn casglu'r wybodaeth ganlynol am weithwyr, drwy'r broses recriwtio

  • Enw,
  • Cyfeiriad,
  • Dyddiad Geni
  • Manylion cyswllt mewn Argyfwng
  • E-bost
  • Rhif ffôn symudol

Mae'r wybodaeth ganlynol yn cael ei chasglu gan y Gwasanaeth Chwarae ond nid yw'n cael ei chadw. Mae'n cael ei anfon ymlaen at yr adran Adnoddau Dynol i gefnogi eu prosesau

  • Dogfennau hawl i weithio fel: Pasbortau; Trwyddedau gyrru; Tystysgrifau Geni
  • Geirdaon
  • Gwybodaeth DBS

Mae'r wybodaeth ganlynol yn cael ei chasglu gan y Gwasanaeth Chwarae ond nid yw'n cael ei chadw. Mae'n cael ei anfon ymlaen at Gredydwyr i gefnogi eu prosesau

  • Manylion banc i dalu treuliau gwirfoddolwyr

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw;

(e) Mae arnom ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus - i gynnig darpariaeth chwarae ddiogel a dilyn proses recriwtio diogel y Cyngor.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol

  • data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn ei gasglu dan Erthygl 9 GDPR y DU.

  • Fel rhan o'r broses DBS, gofynnwn i weithwyr a oes ganddynt euogfarnau troseddol sydd heb eu disbyddu

Pan fyddwn yn casglu data troseddol (DBS), caiff ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 o GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael eu rhannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol, pan fydd ei angen iddynt gyflawni eu rolau.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael eu storio’n ddiogel mewn;

  • Cronfa ddata electronig sy’n ddiogel (yr eitemau hynny a restrir yn rhan gyntaf Adran 3)
  • Mae cyfarfodydd Un i Un, cyfweliadau worksmart a chofnodion salwch yn cael eu cadw naill ai ar yriant diogel neu dan glo mewn cabinet

Am ba hyd mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol trwy gydol eich cyfnod cyflogaeth. Mae'r cyfnodau y cedwir eich data ar ôl diwedd eich cyfnod cyflogaeth wedi'u nodi mewn cyfnodau cadw perthnasol.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiro - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Symud data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod y canlyniad os byddwch yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch â Gwasanaeth Chwarae Torfaen, Yr Adeilad Eco, 1-4 Springvale, Cwmbrân, NP44 5AZ, 01495 742322   andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH,  Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost ar Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/09/2025 Nôl i’r Brig