PN073 - Hysbysiad Preifatrwydd Canolfan Arloesi Busnes Springboard

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny, a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Economi a Lle
Maes Gwaith: Arloesi (Springboard)
Manylion Cyswllt: Joanne Doubler
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Tenantiaid a chyn-denantiaid yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard – yn darparu swyddfeydd a labordai hyblyg, modern i helpu'ch busnes i arloesi, tyfu a datblygu

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu'n uniongyrchol gennych chi.

Rydym yn casglu'r data hwn fel tenant neu aelod cyswllt Canolfan Arloesi Busnes Springboard – Cymru.

A

Teledu cylch cyfyng ar y safle gan drydydd parti dan gytundeb

A

Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan Dŷ'r Cwmnïau, gwybodaeth gyfreithiol ac ariannol, a geirdaon addas i sicrhau prydles yn Springboard.

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?

  • Cynlluniau Busnes
  • Llif Arian/Cyllid
  • Dogfennau Cyfreithiol
  • Ffurflenni cais · Adolygiadau
  • Post Electronig
  • Holiaduron
  • Lluniau teledu cylch cyfyng

Pa wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Bydd y Cyngor yn casglu:

  • Enw
  • Cyfeiriad y busnes a'r cartref
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
  • Nifer y gweithwyr
  • Buddsoddwyr / deiliaid cyfranddaliadau
  • Ariannol
  • Lluniau teledu cylch cyfyng

Pam mae’r Cyngor yn prosesu eich data personol?

Dan Erthygl 6, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Mae arnom ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Gallwn gasglu'r data categori arbennig canlynol:

  • data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • data personol sy'n datgelu barn wleidyddol
  • data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • data personol sy'n datgelu aelodaeth undeb llafur
  • data sy'n ymwneud ag iechyd
  • data sy'n ymwneud â bywyd rhywiol unigolyn
  • data sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
  • data sy'n ymwneud ag iechyd

Rydym yn ei gasglu dan Erthygl 9 GDPR y DU.

  • A

Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10, GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Mae eich data’n cael eu rhannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol, pan fydd ei angen arnynt i gyflawni eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda sefydliadau ar gyfer cymorth busnes a chymorth ariannol. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Sefydliadau trydydd parti preifat lle rhoddwyd caniatâd

Ar wahân i ble y nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Gellir rhannu lluniau teledu cylch cyfyng yn allanol gyda sefydliadau er diogelwch Ymwelwyr a Staff ac i atal troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Yr Heddlu
  • Yswiriant
  • Cynrychiolwyr Cyfreithiol

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael eu storio’n ddiogel mewn:

  • Storfa electronig yng ngyriant rhwydwaith diogel Cyngor Torfaen
  • Cyfleusterau storio diogel yn ôl yr angen

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, mae’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae dyletswydd cyfrinachedd hefyd yn berthnasol i’r trydydd parti hwn ac mae'n ofynnol iddynt ddilyn mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba hyd mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiro - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Symud data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod y canlyniad os byddwch yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch â: Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru – Parc Llantarnam, Cwmbrân, Torfaen, NP44 3AW - sicreception@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Rhif ffôn 0330 414 6421 neu e-bost: wales@ico.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 13/03/2026 Nôl i’r Brig