Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Derbyn i Ysgol - Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir

Mae yna 5 Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir sy’n Ysgolion Ffydd yn Nhorfaen;

  • Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant, Cwmbrân
  • Ysgol Gynradd Gatholig Mair a’r Angylion, Cwmbrân
  • Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio, Pont-y-pŵl
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Henllys
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Ponthir

Yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol, dylid cyflwyno pob cais am le mewn Dosbarth Derbyn yn y rownd derbyn arferol i'r Cyngor, hyd yn oed os yw un o'r ysgolion a ffefrir gennych yn ysgol ffydd.

Rhaid i bob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir dderbyn hyd at ei nifer derbyn. Os bydd nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu'n unol â'r meini prawf gormod o geisiadau y mae pob ysgol wedi cytuno arnynt. Fel arfer, caiff y dewis cyntaf ei gynnig ar sail crefydd, lleoliad y cartref, brodyr a chwiorydd ac ati. (gweler protocol y cynllun cydlynu trefniadau derbyn am fanylion pellach).

Dylid cyflwyno ceisiadau meithrin ac yn ystod y flwyddyn ar gyfer ysgol ffydd yn uniongyrchol i’r ysgol berthnasol.

Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Gynorthwyir

Ysgol Gatholig Sant Alban yw’r ddarpariaeth Uwchradd Gatholig ranbarthol ar gyfer Torfaen. Dylid gwneud ceisiadau i Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban yn uniongyrchol trwy eu gwefan - www.stalbans-pontypool.org.uk (yn agor mewn tab newydd)

Mae manylion am enwau a chyfeiriadau ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, eu polisïau derbyn a manylion am bolisi cludiant yr Awdurdod yn ymwneud ag ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar gael yn y Polisi Derbyn Torfaen.