Derbyniadau Ysgol - Gweithdrefn Apelio

Yn y mwyafrif helaeth o achosion, caiff plant gynnig lle yn yr ysgol o ddewis cyntaf eu rhieni/gofalwyr.

Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn yn gallu cael ei (d)derbyn i'r ysgol honno, byddwch yn cael rheswm manwl dros y penderfyniad hwnnw ac yn cael gwybod am eich hawl statudol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Os caiff eich cais ei wrthod, bydd angen i chi benderfynu a ydych yn fodlon derbyn lle sy'n cael ei gynnig mewn ysgol arall, neu a hoffech barhau â'ch cais cyntaf.

Os byddwch yn dewis yr olaf, gallwch apelio at Banel Apeliadau Annibynnol a chaiff trefniadau i wrando ar eich apêl eu gwneud ym mis Ebrill/Mai gan Is-adran Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y broses Apelio trwy gysylltu â'r Gwasanaethau Democrataidd. Mae hyn yn berthnasol i dderbyniadau chweched dosbarth hefyd.

Gwasanaethau Democrataidd