Trosolwg
Mae 15 dosbarth meithrin cyfrwng Saesneg, pedwar cyfrwng Cymraeg a dau ddosbarth meithrin mewn ysgolion ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor, ochr yn ochr â nifer o feithrinfeydd yn y sector preifat a gwirfoddol.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am leoliadau meithrin yr awdurdod lleol yn ein Polisi Derbyn Torfaen.
- Polisi Derbyn Torfaen 2027/2028 (yn agor mewn tab newydd)pdf file[1.27MB]
Cymhwysedd
Gall plentyn ddechrau yn y meithrin o ddechrau'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed os oes lleoedd ar gael.
Cynigir lleoedd rhan-amser (sesiynau bore neu brynhawn yn unig), bum diwrnod yr wythnos.
Plant sy’n codi’n 3 oed
Gall plant sy'n troi'n dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr wneud cais i ddechrau yn y meithrin ym mis Ionawr.
Gall plant sy'n troi'n dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth wneud cais i ddechrau yn y meithrin ym mis Ebrill.
Derbyn i ddosbarth meithrin
Gall plant sy'n dair oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, a'r rhai na wnaeth gais am le i blant sy’n codi’r 3 oed, wneud cais i ddechrau yn y meithrin y mis Medi canlynol.
Gwneud cais
Dim ond un ffenestr ymgeisio sydd ar gael ar gyfer lleoliadau meithrin ac i blant sy’n Codi’n 3 oed.
Dyddiadau Derbyn 2027
Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Ionawr 2027, Ebrill 2027 a Medi 2027 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.
- Dyddiad penderfyniad ar gyfer ceisiadau ar amser - 18 Medi 2026 (Medi 2027 plant 4-blwydd-oed a Ionawr 2027 plant sy’n codi’n 3)
- Dyddiad penderfyniad ar gyfer ceisiadau ar amser – 29 Ionawr 2027 (Ebrill 2027 i blant sy’n Codi’n 3)
I wneud cais hwyr am le meithrin ar gyfer lleoliadau yn 2027, lawr lwythwch a llenwch Ysgol Feithrin – Ffurflen Dderbyn.
Noder: Ni fyddwn yn derbyn cais am le mewn meithrinfa heb dystiolaeth o ddyddiad geni.
Ceisiadau Hwyr 2026
Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Ionawr 2026, Ebrill 2026 a Medi 2026 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.
I wneud cais hwyr am le meithrin ar gyfer lleoliadau yn 2026, lawr lwythwch a llenwch Ysgol Feithrin – Ffurflen Dderbyn.
Noder: Ni fyddwn yn derbyn cais am le mewn meithrinfa heb dystiolaeth o ddyddiad geni.
Cyswllt
I gael gwybodaeth am feithrinfeydd a gynhelir cysylltwch ar Tîm Derbyniadau Ysgol.
FI gael mwy o wybodaeth am dderbyn i gylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Preifat, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (yn agor mewn tab newydd).
Mae manylion am y Cynnig Gofal Plant i Gymru (30 awr o Ofal Plant) ar gael yma.
Dogfennau
- Polisi Derbyn Torfaen 2026/2027 (yn agor mewn tab newydd)pdf file[669KB]
- Polisi Derbyn Torfaen 2027/2028 (yn agor mewn tab newydd)pdf file[1.27MB]