Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Uwchradd

Trosolwg

Mae pedair ysgol cyfrwng Saesneg, un cyfrwng Cymraeg ac un ysgol ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor yn Nhorfaen.

Ysgol Gatholig Sant Alban yw’r ddarpariaeth Uwchradd Gatholig ranbarthol ar gyfer Torfaen. Dylid gwneud ceisiadau i Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban (yn agor mewn tab newydd) yn uniongyrchol trwy eu gwefan.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd yr awdurdod lleol yn ein Polisi Derbyn Torfaen.

Cymhwysedd

Mae plant fel arfer yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn ddeuddeg oed (hy 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).

Gwneud Cais

Dyddiadau Derbyn 2027

  • Bydd y ffurflen gais ar-lein yn fyw - 18 Medi 2026 (9.00 am)
  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw - 30 Hydref 2026 (5 hanner dydd)
  • Cynnig lle - 1 Mawrth 2027*

Ceisiadau hwyr - 2026

Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Medi 2026 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.

I wneud cais hwyr am le mewn Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2026 lawr lwythwch a llenwch y Ffurflen derbyn i Ysgol Uwchradd.

Cysylltu

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Derbyn i Ysgolion.

Os ydych am wneud cais am ysgol y tu allan i Dorfaen, bydd angen i chi gysylltu â'ch Awdurdod Cartref i ofyn am gyngor ar sut i wneud cais.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am drefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig, fel darparu cludiant ysgol yn Polisi Derbyn Torfaen.