Mae Rheoliadau (Fforymau Derbyn) Addysg (Cymru) 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod yng Nghymru sefydlu fforwm derbyn.
Mae gan Fforymau Derbyn rôl allweddol i’w chwarae wrth sicrhau system derbyn deg sy’n hawdd ac yn syml i rieni ei deall.
Mae fforymau’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Chod Derbyn i Ysgolion 2013. Maen nhw’n fodd i awdurdodau derbyn a phartïon eraill â diddordeb drafod effeithlonrwydd trefniadau derbyn lleol, ystyried sut i ddelio â materion derbyn anodd a chynghori awdurdodau derbyn ar sut y gallant wella eu trefniadau.
Gellir lawr lwytho cofnodion y cyfarfodydd diweddaraf isod.
Cofnodion
Mae copi o Adroddiad Blynyddol y Fforwm Derbyniadau (yn agor mewn tab newydd) ar gael yma.