Prif flaenoriaeth ein gwasanaeth cynnal a chadw'r gaeaf yw gwneud ein prif ffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio gan y cyhoedd. Rydym hefyd yn anelu i leihau oedi ac effeithiau economaidd dilynol tywydd gaeafol.
Rydym yn cynnal y gweithgareddau cynnal a chadw'r gaeaf canlynol ar ein ffyrdd:
- Graeanu o flaen llaw er mwyn helpu atal rhew rhag ffurfio
- Graenu er mwyn toddi iâ ac eira sydd wedi ffurfio eisoes
- Aredig eira i symud eira
- Cynnal a chadw biniau halen
Mae ein fflyd cynnal a chadw’r gaeaf yn cynnwys :
- Mae saith o gerbydau graeanu mawr y gellir eu gosod gydag erydr eira
- Dau gerbyd graeanu bach
- Day aradr bach
Graeanu
Mae tua 53 y cant o gyfanswm y rhwydwaith ffyrdd a fabwysiadwyd yn Nhorfaen yn cael ei graeanu o flaen llaw fel rhagofal pan ragwelir rhew ac eira. Cyfeirir at y ffyrdd blaenoriaeth yma fel ein rhwydwaith diffiniedig. Mae ein rhwydwaith diffiniedig yn cynnwys:
- Holl ffyrdd ‘A’ a ‘B’
- Safleoedd lleol o risg uchel a llwybrau mynediad pwysig
- Ardaloedd siopa mawr yng nghanol trefi ar wahân i Gwmbrân, sy'n eiddo preifat
- Palmentydd sy’n cael eu defnyddio llawer pan maent wedi eu gorchuddio ag eira a rhew
Er ein bod yn gwneud pob ymdrech, nid oes modd i gadw ffyrdd Torfaen yn hollol rydd o iâ. Gall glaw neu ddŵr ar y ddaear rhewi ar unrhyw adeg o'r dydd. Gall eira gywasgu a gwneud ffyrdd yn beryglus i yrru arnynt. Mae graeanu ar ôl tywydd gwael yn digwydd er mwyn toddi rhew ar y ffyrdd.
Cael hyd i'r ffyrdd graeanu a biniau graeanu yn eich ardal (yn agor mewn tab newydd)Pan rydym yn graeanu
Bydd y penderfyniad ynghylch p'un ai i raeanu neu beidio yn seiliedig ar fonitro a rhagolygon arbenigol sy’n cael eu diweddaru'n rheolaidd gan y Swyddfa Dywydd. Mae'r penderfyniad o b'un ai i roi halen ar y ffyrdd yn seiliedig ar dymheredd wynebau’r ffyrdd ac nid tymheredd yr aer y tu allan. Dyma pam efallai rhai boreau bydd eich car wedi rhewi ond ni fydd y ffyrdd wedi eu graeanu.
Ceir y penderfyniad i roi halen ar y ffyrdd ei wneud pan:
- fydd y ffyrdd yn wlyb a rhagwelir tymheredd y ffyrdd i fod ar neu o dan y rhewbwynt;
- ragwelir eira. Mae hyn er mwyn helpu atal yr eira rhag setlo, ac mewn achosion o'r fath, bydd graeanu fel arfer yn digwydd cyn rhewi. Fodd bynnag, gall glaw weithiau oedi’r driniaeth ac efallai bydd y ffyrdd yn rhewi cyn ein bod yn gallu rhoi halen arnynt. Gall Eira ddisgyn ar ffyrdd sydd wedi'u graeanu, ond mae’r ffyrdd hyn yn gofyn am y camau traffig i ysgogi priodweddau toddi'r halen.
Yr hyn na allwn ei wneud
- Weithiau, er gwaethaf ein hymdrechion gorau i gadw ein ffyrdd a phalmentydd yn rhydd o rew ac eira, nid yw hyn bob amser yn bosibl.
- Ni allwn roi halen ar ein ffyrdd i gyd, gan y byddai hyn yn dasg enfawr a chostus. Nid yw isffyrdd yn cael eu trin oni bai bod amodau yn ddifrifol iawn. I gynorthwyo gyda hyn rydym yn darparu biniau halen ar ochr ffyrdd ac awgrymiadau er mwyn galluogi mannau trafferthus lleol ar isffyrdd i gael eu trin ar sail hunan -gymorth.
- Nid ydym yn trin llwybrau troed ac eithrio mewn amodau rhew/eira difrifol neu hirfaith iawn pryd y bydd ardaloedd siopa mawr a lleoliadau prysur i gerddwyr yn cael eu trin.
Biniau Halen
Ar hyn o bryd mae gennym dros 700 o finiau halen wedi eu lleoli ledled Torfaen. Mae’r biniau hyn yn cael eu cyflenwi a'u cynnal er mwyn i’r cyhoedd eu defnyddio fel ymateb cyntaf i rhew neu eira ar ffyrdd a llwybrau troed a fabwysiadwyd yn unig. Nid yw biniau yn cael eu cyflenwi i strydoedd preifat ac ni ddylai'r halen o'r biniau gael ei ddefnyddio ar dramwyfeydd neu lwybrau preifat. Mae halen ar gael i'w brynu gan gyflenwyr adeiladwyr lleol i'w defnyddio ar eiddo preifat.
Mae'r biniau wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae problemau hysbys fel ardaloedd â graddiant serth neu safleoedd sy’n dueddol o rewi. Nid yw’r biniau fel arfer yn cael eu lleoli mewn ardaloedd gwastad lle, fel rheol, gellid teithio ar y ffyrdd gyda gofal hyd yn oed yn yr amodau gwaethaf. Nid oes biniau newydd fel arfer yn cael eu lleoli ar ffyrdd sydd eisoes yn ffurfio rhan o brif lwybrau graeanu ac mae isafswm pellter o 100m rhwng biniau ystyried yn synhwyrol.
Bob blwyddyn rydym ond yn gallu fforddio prynu nifer penodol o finiau newydd. Mae rhai yn cael eu defnyddio i gymryd lle biniau sydd wedi eu colli neu eu difrodi a'r gweddill ar gael i ateb ceisiadau newydd. Gellir gofyn am finiau newydd drwy gysylltu â Galw Torfaen ar 01495 762200. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a'i flaenoriaethu a bydd bin newydd yn cael ei ddarparu os yw'r cais yn llwyddiannus, yn dibynnu ar argaeledd bin. Yn anffodus, mae cam-drin a fandaliaeth yn golygu bod gennym lai o finiau ar gael i ateb ceisiadau newydd bob gaeaf. Rhowch wybod i ni neu'r Heddlu am unrhyw ddigwyddiadau.
Mae'r biniau yn cael eu llenwi fel mater o drefn ar ddechrau pob gaeaf ac ar ôl digwyddiadau eira mawr. Os hoffech i ni i ailgyflenwi eich bin halen lleol, cysylltwch â Galw Torfaen ar 01495 762200. Mewn adegau o brinder halen, fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, efallai na fydd biniau halen yn cael ei hail-lenwi er mwyn gwarchod stociau ar gyfer trin y prif lwybrau graeanu.
Yn olaf, defnyddiwch yr halen o'r biniau yn gynnil. Does dim angen haen drwchus o halen er mwyn iddo fod yn effeithiol; y dull mwyaf effeithiol yw rhoi rhywfaint mewn bwced a’i ledaenu gyda llwyaid fach neu â llaw a maneg. Dylid clirio eira yn gyntaf os yn bosibl cyn gosod yr halen.
Clirio Eira
Mae eira dros 50mm o ddyfnder yn cael ei symud gan aredig. Ymgymerir Aredig yn nhrefn blaenoriaeth; gan ddechrau ar y rhwydwaith diffiniedig. Bydd o leiaf un prif lwybr mynediad i drefi a phentrefi mawr yn cael ei wneud yn "agored â gofal ", cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ar ôl i eira syrthio.
Rhagolygon Tywydd
Er mwyn bod y mwyaf effeithiol, dylai'r driniaeth gael ei ledaenu cyn bod iâ yn ffurfio neu eira yn setlo. Mae rhagweld yr amodau hyn, ac ymateb iddynt yn gywir, yn dibynnu ar gymysgedd o wybodaeth leol a phrofiad, rhagolygon tywydd lleol da ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr ffordd bresennol e.e. a yw'n gwlyb, sych, wedi trin yn flaenorol ac ati.
Mae'r Cyngor yn derbyn dau ragolwg tywydd bob dydd - rhagolwg 24 awr a rhagolwg 2 i 5 diwrnod. Mae'r rhagolwg 24 awr yn cael ei ddiweddaru os oes unrhyw newidiadau. Yn ogystal â hyn, mae crynodeb bore yn cael ei anfon gan y Swyddfa Dywydd. Rydym hefyd yn dibynnu ar ddiweddariadau rheolaidd o orsafoedd tywydd sydd wedi eu lleoli'n strategol o amgylch y fwrdeistref.
Sut mae ein gwasanaeth cynnal a chadw y gaeaf yn cael ei drefnu
Mae cerbydau graeanu fel arfer ar y ffyrdd o fawn un awr o gael ein hysbysu ac mae graeanu wedi ei gwblhau o fewn tair awr.
Nodwch mae’r Asiantaeth Priffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd.
- Winter Maintenance Plan (yn agor mewn tab newydd)pdf file[4.94MB]