Sponsored roundabout

Ar gyfartaledd mae tua 20,000 o geir yn gyrru heibio cylchfannau prysuraf gogledd a de Torfaen bob dydd.

Mae dros 93,000 o bobl yn byw yn Nhorfaen; mae'n lle bywiog, amrywiol gyda chysylltiadau ffordd a rheilffordd ragorol.

Pum milltir yn unig ydyw o'r M4 sy'n ei gwneud yn ardal boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, p'un a ydyn nhw'n dewis cerdded yn ein cefn gwlad syfrdanol neu siopa yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân, un o'r canolfannau siopa dan do mwyaf yng Nghymru, gyda mwy na 170 o siopau a mwy na 3,000 o leoedd parcio.

Mae hysbysebu ar un o gylchfannau Torfaen yn rhoi cyfle i bobl weld neges eich busnes 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae Cyngor yn chwilio am fusnesau a fyddai â diddordeb mewn hysbysebu eu gwasanaethau ledled y fwrdeistref, o gylchfannau'r A4043 ym Mhont-y-pŵl, y rhai ar hyd Cwmbran Drive, i'r rhai ger Canolfan Siopa Cwmbrân a llawer mwy.

Mewn lleoliadau lle mae 4 arwydd ar gael (rhestrir y safleoedd isod) mae opsiwn i hysbysebu ar hanner y gylchfan (2 arwydd) am 50% o'r pris a nodir.

Mae rhestr o’r rheini sydd eisoes yn hysbysebu ar gylchfannau ar gael i’w lawr lwytho yma.

Yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd

Nid yw’r prisiau a rhestrwyd yn cynnwys TAW.

* Cafwyd y ffigurau'n annibynnol o Adroddiad Blynyddol Teithio yng Ngwent Fwyaf 2009, Capita Symmonds fel y'i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru.