Yn ddiweddar, cymeradwyodd y cyngor Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sy'n golygu:

  • byddwn yn cofnodi ac yn adrodd sut y byddwn yn rheoli ein hasedau priffyrdd
  • byddwn yn ymrwymo i sefydlu safonau fforddiadwy o fewn ein cyllidebau cyfredol a gytunwyd arnynt.
  • byddwn yn cyfathrebu â'r cyhoedd ynglŷn â pha wasanaeth asedau priffyrdd i'w ddisgwyl

Bydd gweithredu'r HAMP yn cefnogi:

  • yr angen i reoli pwysau cyllidebol
  • nodau Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2016-2021

Nodwch: Roedd yr HAMP yn ymwneud â rhwymedigaethau'r cyngor fel Awdurdod Priffyrdd yn unig ac felly, dim ond yr asedau’r briffordd gyhoeddus a fabwysiadwyd sydd wedi eu cynnwys. Nid yw strydoedd preifat a ffyrdd a drosglwyddwyd i landlordiaid cymdeithasol yn cael eu cynnwys. Mae elfennau o’r briffordd fabwysiedig ar gael ar wefan y Cyngor.

Diffiniadau

Diffinnir ased priffyrdd fel unrhyw strwythur, system, adeiladwaith neu dir sy'n gysylltiedig â'r briffordd fabwysiedig.

Diffinnir rheoli asedau priffyrdd fel:

  • Dull strategol sy'n nodi'r ffordd orau o ddyrannu adnoddau i weithredu, rheoli, gwarchod a gwella'r seilwaith priffyrdd heddiw ac yn y dyfodol
  • Ffordd brofedig i ddangos rheolaeth effeithiol o'r rhwydwaith priffyrdd trwy ddarparu dealltwriaeth ariannol sylweddol

Rheoli Asedau Priffyrdd