Gall trigolion yn Nhorfaen sy’n mwynhau darllen, wneud ‘Cais a Chasglu’ o bob un o’r tair llyfrgell.

Gellir gofyn am lyfrau trwy ffonio eich llyfrgell leol anfon e-bost a ni.

Wrth gysylltu â’r llyfrgell i ofyn am eitemau, rhoddwch yr wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

Bydd staff y llyfrgell yn dewis llyfrau ar eich cyfer chi ac yn gwneud eu gorau i fodloni'ch gofynion, ond cofiwch y gallai llawer o'r teitlau mwyaf poblogaidd fod ar fenthyg o hyd oherwydd y cyfnod clo diweddar.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma hefyd i ofyn am a chasglu pecyn Dechrau Da am ddim i’ch plant. Mae’r pecynnau yma ar gael i blant 0-1 oed ac 1-3 oed, am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, ewch i www.booktrust.org.uk (yn agor mewn tab newydd)

I drigolion nad ydynt yn gallu mynd i lyfrgell (am amrywiol resymau) bydd gwasanaeth dosbarthu ar gael.

Ymuno â'r Gwasnaeth Llyfrgelloedd (yn agor mewn tab newydd)