Mae croeso i blant o bob oedran ymuno â'r llyfrgell a chymryd rhan.
Ymuno â'r Gwasnaeth Llyfrgelloedd (yn agor mewn tab newydd)Mae gan bob llyfrgell:
- lyfrgell adran llyfrau plant sy’n olau a chroesawgar gyda llyfrau straeon i bob oed a llyfrau gwybodaeth i helpu gyda gwaith cartref a hamdden
- cyfrifiaduron, mynediad at y rhyngrwyd gan gynnwys Wi-Fi am ddim
- adnoddau ar-lein, deunydd cyfeirio a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol arall y gellir eu cyrchu gartref neu yn y llyfrgell
- gwasanaethau argraffu, copïo a sganio
- digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd yn ogystal â digwyddiadau arbennig yn ystod y gwyliau a sialens ddarllen yr haf flynyddol
Mae plant sy’n gwrando ar straeon yn dysgu llawer o eiriau a brawddegau newydd. Mae dysgu mwynhau llyfrau yn rhoi cychwyn da i blant pan fyddant yn mynd i gylch chwarae, i feithrinfa ac i’r ysgol.
Ac yn fwy na hynny, mae darllen yn ffordd wych o dreulio amser gyda’n gilydd, ac mae’n hwyl!
Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell. Mae croeso i fabis a phlant ifanc yn y llyfrgelloedd hyd yn oed os ydynt weithiau’n aflonydd a swnllyd.
Rydym eisiau i blant fwynhau llyfrgelloedd a dysgu caru llyfrau o oedran cynnar.
Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth o lyfrau i fabis a phlant cyn oedran ysgol gan gynnwys llyfrau cardbord, llyfrau luniau, rhigymau a llyfrau Cymraeg.
Gofynnwch am gerdyn casglwr Helfa Lyfrau yn eich llyfrgell leol! Cewch chi sticer bob tro y byddwch yn mynd i’r llyfrgell ac fe gewch dystysgrifau lliwgar.
Cynhelir sesiynau rhigymau ac adrodd straeon ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Mae babis, plant bach a phlant cyn oedran ysgol yn mwynhau caneuon a straeon felly dewch i ymuno â’r hwyl.
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael mwy o wybodaeth.
Mae croeso i famau fwydo eu babanod ar y fron ym mhob un o’n llyfrgelloedd.
Dechrau'n Ifanc
Mae plant sy'n gwrando ar storiau yn dysgu llawer o eiriau a brawddegau newydd. Mae dysgu i fwynhau llyfrau yn rhoi dechrau da i blant ifanc pan fyddant yn mynd i grŵp chwarae, meithrinfa a'r ysgol.
Ac mae darllen yn ffordd wych o dreulio amser gyda'ch gilydd ac mae'n hwyl!
'Dych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â'r llyfrgell
Mae croeso i fabis a phlant bach mewn llyfrgelloedd hyd yn oed os ydyn nhw'n aflonydd a swnllyd weithiau.
Rydym eisiau i blant fwynhau llyfrgelloedd a dysgu i garu llyfrau o oedran ifanc.
Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth eang o lyfrau i fabis a phlant sydd heb ddechrau'r ysgol yn cynnwys llyfrau bwrdd, llyfrau lluniau, llyfrau yn Gymraeg, rhigymau a barddoniaeth.
Mwy na llyfrau'n unig
Dewch i fwynhau Amser Rhigwm i Fabanod, sesiynau stori a gweithgareddau dros y gwyliau. Gall aelodau’r llyfrgell ddefnyddio ein cyfrifiaduron cyhoeddus ac mae mynediad am ddim i’r rhyngrwyd drwy gyswllt diwifr hefyd ar gael.
Helfa Lyfrau Dechrau Da
Gofynnwch am gerdyn casglwr Helfa Lyfrau yn eich llyfrgell leol!
Casglwch sticeri bob tro y byddwch yn ymweld â'r lyfrgell am dystysgrifau.
Llyfrau Llesol
Mae gan bob teulu gwestiynau neu anawsterau o bryd i'w gilydd. Mae'r casgliad Llyfrau Llesol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am amryw o bynciau, fel bwlian, problemau cysgu, defnyddio'r poti, ysgariad a llawer o faterion eraill.
Grwpiau Chwarae a Chlybiau Plant Bach
IOs ydych yn warchodwr plant cofrestredig neu yn cymryd rhan mewn rhedeg grŵp i blant dan 5 gallwch fenthyg hyd at 20 llyfr ar y tro i'r grŵp eu defnyddio.
Mae staff y llyfrgell bob amser yn falch o drefnu ymweliadau i glybiau chwarae a phlant bach.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch llyfrgell leol.
Gwell gyda chynllun Llyfrau yn darparu hunan gymorth lyfrau i blant a phobl ifanc i'w helpu i ymdrin â materion emosiynol ac yn rhoi arweiniad ychwanegol.
Mae'r llyfrau yn cynnwys pynciau fel:
- profedigaeth
- ysgariad
- bwlio
- hunan-barch isel
- iselder
- Glasoed
- Dicter
Mae ymchwil wedi dangos effeithiolrwydd y llyfrau hunan-gymorth o ansawdd uchel.
Gall plant a phobl ifanc yn arbennig yn ei chael yn anodd i siarad am eu hemosiynau. Gall darllen llyfr helpu i ddeall eu teimladau ac yn rhoi cyngor ar sut i ymdopi nhw.
Mae yna hefyd lyfrau ar gael i helpu arwain rhieni a gwarcheidwaid.
Nod grwpiau darllen i blant a phobl ifanc yw ysbrydoli pobl ifanc i ddarllen yn anturus, datblygu hyder mewn mynegi eu barn – a chael amser braf yn darllen a thrafod llyfrau! Mae’r cyfranogwyr yn cael hwyl yn y sesiynau, ac yn eu canfod yn gyfeillgar, yn gymdeithasol ac yn meithrin hyder.
Beth am ddod draw i un o'n grwpiau i roi cynnig ar straeon newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft?
Ar hyn o bryd mae gennym glybiau ‘Clonclyfrau’ ar gyfer plant 7- 11 oed a grwpiau darllen 11+ yn ein llyfrgelloedd.
Mae'r clybiau a'r grwpiau darllen hyn yn rhedeg bob pedair wythnos, cysylltwch â'ch llyfrgell leol i ddarganfod mwy. Mae lleoedd cyfyngedig ar gael felly cofrestrwch cyn hir!
Dechrau Da yn rhaglen genedlaethol a gydlynir gan BookTrust i annog teuluoedd i ymweld â'r llyfrgell a rhannu'r pleser o ddarllen ac edrych ar lyfrau gyda babanod a phlant bach.
Dylech dderbyn eich pecyn Dechrau Da Baby dwyieithog gan eich ymwelydd iechyd yn y flwyddyn gyntaf eich babi, ac pecyn eich Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar dwyieithog gan eich ymwelydd iechyd pan fydd eich plentyn yn 18-24 mis.
Am wybodaeth bellach ewch www.booktrust.org.uk (yn agor mewn tab newydd)
Mae holl lyfrgelloedd Torfaen yn cynnig cymorth gwaith cartref ac yn darparu amgylchedd diogel a chyfforddus lle gall plant gwrdd â ffrindiau a defnyddio adnoddau'r llyfrgell i'w helpu gyda'u hastudiaethau.
Mae mynediad i'r rhyngrwyd, cyfleusterau argraffu a llungopïau ar gael yn rhad ac am ddim, yn ogystal ag ystod eang o lyfrau gwybodaeth a man astudio.
Mae staff y llyfrgell wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad lle bo angen. Ni fyddwn yn gwneud eich gwaith cartref drosoch, ond byddwn yn barod i'ch helpu i wneud eich gorau!
Cynhelir Her Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn yn ystod gwyliau'r haf. Mae'n llawer o hwyl ac yn uchafbwynt y gwyliau i filoedd o blant, ond mae hefyd yn helpu i sicrhau nad yw sgiliau darllen yn dioddef yn ystod gwyliau hir yr haf. Mae plant sy'n cymryd rhan yn yr Her yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi yn ddarllenwyr mwy rhugl, hyderus a hapus.
Mae cymryd rhan yn hawdd ac mae'n hollol RAD AC AM DDIM. Nod yr Her yw i blant ddarllen chwech neu ragor o lyfrau llyfrgell o'u dewis yn ystod yr haf ac i mewn i fis Medi. Gallant ddarllen unrhyw lyfrau maent yn eu hoffi: llyfrau ffeithiau, straeon, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau - lyfrau sain ac e-lyfrau hefyd! Cyn belled ag y maent yn cael eu benthyg o'r llyfrgell, maent i gyd yn cyfrif.
Mae yna sticeri a gwobrau eraill i’w casglu ar hyd y ffordd – y cyfan oll AM DDIM.
A nawr, drwy gydol y flwyddyn, mae gwefan Her Ddarllen yr Haf (yn agor mewn tab newydd) yn eich helpu i gadw cofnod o’ch darllen, dod o hyd i lyfrau newydd i’w darllen a chymryd rhan mewn cystadlaethau a chwarae gemau.