Croeso i System Archebu Cyfrifiadur y Llyfrgelloedd.
Os ydych yn dymuno defnyddio cyfrifiadur yn unrhyw un o'r llyfrgelloedd yn Nhorfaen, gallwch archebu amser ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
- Gallwch archebu amser hyd at 8 diwrnod ymlaen llaw
- Gallwch archebu amser ar gyfrifiadur yn unrhyw un o Lyfrgelloedd Torfaen
- Os ydych yn anghofio faint o'r gloch neu ym mha lyfrgell rydych wedi archebu amser ar gyfrifiadur gallwch wirio'n defnyddio'r adnodd dod o hyd i archeb
- Gallwch argraffu dogfen o bell o'ch dyfais eich hun a'i chasglu o unrhyw lyfrgell
Mae sesiynau am uchafswm o 2 awr i oedolion a 30 munud i blant i ddechrau, ond yn amodol ar faint sydd ar gael gellir ymestyn cyfnod y sesiwn.
Archebwch amser ar gyfrifiadur llyfrgell neu argraffwch o’ch dyfais eich hun (yn agor mewn tab newydd), gan ddefnyddio system archebu gyfrifiadurol ar lein.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen rhif adnabod personol arnoch i fynd ar y system. Os nad oes gennych rif adnabod personol ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.