Mae'r rhan hon o'r wefan yn rhoi gwybodaeth i chi am fynediad at nifer o wasanaethau ar-lein allanol.
Ymuno â'r Gwasnaeth Llyfrgelloedd (yn agor mewn tab newydd)e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd
Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnig e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd i’w lawr lwytho AM DDIM ar eich tabled, smartphone, gliniadur neu ben-bwrdd. Mae'r adnoddau hyn yn gweithio yn union fel benthyciadau arferol y llyfrgell ond maent yn dychwelyd eu hunain yn awtomatig felly nid oes unrhyw daliadau hwyr. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cerdyn llyfrgell dilys a'r ap cywir ar gyfer eich dyfais.
e-lyfrau ac e-lyfrau llafar
Mae gwasanaeth BorrowBox yn darparu ystod eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg. Mae llyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael i oedolion a phlant. Gallwch lawr lwytho hyd at 10 e-lyfr a 10 e-lyfr llafar ar unrhyw adeg am gyfnod benthyg o 21 diwrnod.
e- bapurau newydd
Mae gwasanaeth BorrowBox hefyd yn cynnig ystod eang o e-bapurau newydd, yn cynnwys teitlau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ôl-gopïau ar gael a gall cwsmeriaid danysgrifio i dderbyn y rhifynnau nesaf.
Gallwch ddefnyddio BorrowBox drwy ap ar eich dyfais symudol (ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple, Android ac Amazon) neu drwy Wefan BorrowBox Torfaen (yn agor mewn tab newydd).
Gallwch lawr lwytho’r ap o App Store neu Google Play Store. Darllenwch canllaw BorrowBox i gael help i osod yr ap ar ddyfeisiau Amazon Kindle Fire (yn agor mewn tab newydd).
e-Gylchgronau
Dros 1000 o gylchgronau i ddewis o'u plith yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau a diddordebau. Nid oes cyfyngiad ar y nifer y gallwch eu lawrlwytho, a gallwch gael mynediad i ôl gopïau hefyd. Lawr lwythwch 24/7 yn uniongyrchol i’ch dyfais symudol drwy ap PressReader neu i’ch cyfrifiadur neu Mac drwy wefan PressReader (yn agor mewn tab newydd).
Os oes angen help arnoch i gael hyd i unrhyw rhai o’r adnoddau hyn, beth am alw i mewn i’n sesiynau TG:
- Llyfrgell Blaenafon
- Bob dydd Mercher - 14:00 - 16:00
- Llyfrgell Cwmbrân
- Bob dydd Mawrth - 14:00 - 15:30
- Bob dydd Iau - 10:00 - 12:00 a 14:30 - 16:30
- Llyfrgell Pont-y-pŵl
- Bob dydd Mawrth - 10:00 - 12:00
Ymchwil
Mynediad i Ymchwil (yn agor mewn tab newydd) - rhydd fynediad am ddim i ystod eang o erthyglau academaidd ac ymchwil mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU. Ymhlith y pynciau mae celf, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau, gyda thua 15miliwn + o erthyglau eisoes ar gael. (Gellir eu cyrchu trwy gyfrifiaduron personol â chysylltiad diwifr yn adeiladau’r llyfrgelloedd yn unig).
Find My Past ac Llinach (yn agor mewn tab newydd) - Dros 500 o deitlau poblogaidd i ddewis o’u plith yn cynnwys Avengers, Star Trek a Transformers. Llawr lwythwch 24/7 yn uniongyrchol i’ch e-Ddarllenydd, tabled, ffôn clyfar, gliniadur, cyfrifiadur personol neu MAC.
Which? Ar-lein (yn agor mewn tab newydd) - Canllawiau prynu ac adolygu, y cylchgrawn poblogaidd i ddefnyddwyr ar lein. Mae’r adnodd hon ar gael mewn Llyfrgelloedd yn unig. Gofynnwch i aelod o staff i’ch mewngofnodi.
Byw a Dysgu
Theory Test Pro (yn agor mewn tab newydd)- Mae Theory Test Pro yn ddynwarediad ar-lein realistig o brofion theori gyrru'r DU i bob categori o gerbydau. Mae'n cynnwys yr holl gwestiynau swyddogol sydd yn y prawf wedi eu trwyddedu gan y DSA, y bobl sy'n gosod y profion.
Bywyd yn y DU (yn agor mewn tab newydd) yw’r canllaw cynhwysfawr i newydd-ddyfodiaid i’r DU. Mae’n trafod arferion, crefydd, teithio a chludiant cyhoeddus, y GIG, ennill bywoliaeth a budd-daliadau.
Cysylltiadau Defnyddiol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)- Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau electronig tanysgrifedig, yn amrywio o gylchgronnau ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd.
Y Brifysgol Agored (yn agor mewn tab newydd)- Mae OpenLearn, y Brifysgol Agored yn anelu i chwalu'r rhwystrau i addysg drwy gyrraedd miliynau o ddysgwyr o gwmpas y byd, gan ddarparu adnoddau addysgol am ddim ac yn gwahodd pawb i flasu cyrsiau y mae eu myfyrwyr cofrestredig yn eu dilyn - am ddim! Gyda dros 650 o gyrsiau am ddim, wedi eu gwasgaru ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc, gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi.
Llyfrgelloedd Cymru (yn agor mewn tab newydd) - Dyma eich porth un stop ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru - gallwch gael gwybod ynghylch beth sy'n digwydd mewn llyfrgelloedd, chwilio am lyfrau, ymuno ar-lein, dod o hyd i'ch llyfrgell agosaf, holi cwestiynau anodd, darllen adolygiadau llyfrau, a llawer mwy.