Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau a sefydliadau cymunedol am grantiau o hyd at £10,000 trwy Fenter Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.
Mae'r gronfa hon yn cefnogi atebion ymarferol ac ataliol yn y gymuned i fynd i'r afael â'r canlynol:
- Costau byw
- Tlodi
- Ansicrwydd bwyd
- Pryderon am ddyled ac arian
- Ynysu cymdeithasol
- Allgáu digidol
- Iechyd a llesiant gwael
Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda grwpiau a mudiadau sydd â ffocws cymunedol i gefnogi pobl yn ein cymuned i symud o argyfwng i hyder, gyda phrosiectau sy'n cyd-fynd â'n dull gweithredu ymyrraeth gynnar ac atal.
Pwy all wneud cais?
Anogir grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol ac elusennau lleol sy'n gweithredu yn Nhorfaen i gyflwyno cais. Dylai prosiectau ddangos budd cymunedol clir a gweithgareddau ataliol sy'n targedu blaenoriaethau allweddol y Cyngor a'r rhaglen Trechu Tlodi.
Mae’r meini prawf cymhwystra a rhagor o wybodaeth yn rhan o'r ffurflen gais.
Sut i gyflwyno cais
Dylid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflen gais swyddogol, sydd ar gael yn y pecyn cais isod. Sicrhewch eich bod yn darllen y pecyn cais fel eich bod yn darparu'r holl ddogfennaeth a manylion eich prosiect fel sy'n ofynnol ar y ffurflen gais.
Bydd gofyn i geisiadau gan grwpiau cymunedol a sefydliadau elusennol ddarparu'r ddogfennaeth ganlynol i gefnogi cynnydd y cais:
- Copi o'ch cyfrifon diweddaraf
- Mantolen banc diweddar (o fewn llai na 3 mis)
- Copi o'ch cyfansoddiad neu femorandwm
- Polisi diogelu
- Polisi gwirfoddoli
- Rhaid cynnwys manylion eich yswiriant ar y ffurflen gais.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau
Dyma’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol:
- 8am dydd Llun 16 Tachwedd 2026
Mae'r cyllid sydd ar gael yn gyfyngedig ac mae'r rhaglen grant yn debygol o fod yn gystadleuol.
Cymorth ac Arweiniad
Cynhelir sesiwn friffio ar-lein dros Teams:
- Dydd Llun 2 Tachwedd 2026 am 2pm dros Teams
I ymuno neu fynegi diddordeb yn y sesiynau, cofrestrwch eich diddordeb trwy e-bost: CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk
Dylech gynnwys:
- Enw'r sefydliad
- Enw(au) y rheiny fydd yn ymuno
- Cyfeiriad e-bost ar gyfer y gwahoddiad