Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau a mudiadau cymunedol ar gyfer grantiau hyd at £1000 trwy Gronfa’r Degwm. Mae’r gronfa hon yn rhoi cymorth ariannol i brosiectau sydd o fudd i’r gymuned leol ac sy’n cyd-fynd â dibenion elusennol y cynllun.
Pwy all wneud cais?
Anogir grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau lleol yn Nhorfaen i wneud cais. Dylai prosiectau ddangos budd cymunedol clir, a bodloni’r meini prawf cymhwyster a amlinellir yng nghanllawiau’r gronfa sydd i’w gweld fel rhan o’r ffurflen gais.
Sut i wneud cais
Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflen gais swyddogol sydd ar gael yn y pecyn ymgeisio isod. Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn darllen y pecyn ymgeisio er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r holl ddogfennau a manylion am eich prosiect fel gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais.
Bydd angen i geisiadau gan grwpiau cymuned a mudiadau elusennol ddarparu’r dogfennau canlynol i gefnogi’r cais:
- Copi o’ch cyfrifon diweddaraf
- Datganiad banc diweddar (llai na 3 mis oed)
- Copi o’ch cyfansoddiad neu femorandwm
Dyddiadau cau ceisiadau
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi eu cwblhau, gan gynnwys pob dogfen gefnogol, i’w gweld isod:
- 8 a.m. Dydd Llun, 21ain Medi 2026*
- 8 a.m. Dydd Llun 19 eg Hydref 2026
*Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl dyddiad cau Medi’n cael eu hystyried ar ôl dyddiad cau Hydref.
Mae’r arian sydd ar gael yn gyfyngedig a bydd y cynllun yn cau heb rybudd unwaith y bydd y gronfa wedi ei defnyddio’n llawn. Nodwch: Gallai hyn ddigwydd cyn bod pob dyddiad panel a drefnwyd wedi digwydd.
Ceisiadau i unigolion sy’n profi cyni neu argyfwng ariannol
Gall unigolion sy’n profi cyni neu argyfwng ariannol hefyd wneud cais am gymorth trwy Gronfa’r Degwm trwy gysylltu â’r Tîm Gofal Cwsmer trwy 01495 762200, i gael eu cyfeirio at yr Hwb Ymyrraeth Gynnar ac Atal ar gyfer asesiad ac ystyriaeth o’u hanghenion. Bydd angen i ymgeiswyr unigol roi tystiolaeth o incwm a gwariant i gefnogi’r cais.
Am ragor o wybodaeth am y Grantiau Cymunedol, danfonwch e-bost at CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk