Mae'r gyfraith yn mynnu bod unrhyw un sy'n rhedeg sŵ yn cael ei drwyddedu.
Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol trwy osod safonau ar gyfer y safle a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd, a daw milfeddyg gyda ni i sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu bodloni.
Yn ôl y diffiniad yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981, mae sŵ yn "sefydliad lle y caiff anifeiliaid gwyllt eu cadw i'w harddangos i'r cyhoedd heblaw at ddiben syrcas a heblaw fel siop anifeiliaid anwes; ac mae'r Ddeddf hon yn berthnasol i unrhyw sŵ y gall y cyhoedd ymweld â hi, am dâl mynediad neu am ddim, ar fwy na saith diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol".
Er mai prif nod trwyddedu yw amddiffyn lles anifeiliaid, byddwn hefyd yn cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch er mwyn helpu i amddiffyn diogelwch ymwelwyr.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am amodau lles anifeiliaid mewn sŵ, neu os ydych yn pryderu efallai bod safle'n gweithredu fel sŵ heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Gallwn hefyd fwrw golwg ar safonau gofal ar gyfer anifeiliaid yn gyffredinol, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded
I redeg sŵ yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, mae angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.
Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)
Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf Trwyddedu Sŵau ac arweiniad diweddaraf DEFRA i'w cael ar wefan DEFRA (yn agor mewn tab newydd).
Ar gyfer ymholiadau eraill, neu i gael copïau caled o'r dogfennau uchod, gallwch gysylltu â DEFRA yn: Wildlife Species Conservation Division, Department for Environment, Food and Rural Affairs, Zone 1/10, Temple Quay House, 2 The Square, Temple Quay, Bristol BS1 6EB. Ffôn: 0117 372 8209 neu e-bost: zoos.branch@defra.gsi.gov.uk.
Sut i ymgeisio
Os ydych am wneud cais i gofrestru am Drwydded Sw, lawrlwytho copi o'r hysbysiad o fwriad i wneud cais am ffurflen trwydded sw (yn agor mewn tab newydd) a'r cais i adnewyddu ffurflen trwydded sw (yn agor mewn tab newydd) yma.
Mae copi o'n hamodau trwydded safonol (yn agor mewn tab newydd)ar gael yn y fan hon. Fodd bynnag, mae'r rhain er arweiniad yn unig, oherwydd bydd yr union amodau a osodir ar safle sŵ yn berthnasol i amgylchiadau unigol.
Ffïoedd ymgeisio
Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio
Y broses ymgeisio
Mae gwneud cais am drwydded s ŵ yn broses gymhleth a rhaid dilyn pob cam yn ofalus.
O leiaf ddau fis cyn gwneud cais am drwydded, rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf electronig) i'r awdurdod lleol o'i fwriad i wneud cais. Rhaid i'r hysbysiad roi manylion:
- lleoliad y sŵ
- y mathau o anifeiliaid ac amcangyfrif o nifer yr anifeiliaid o bob grŵp a gedwir i'w harddangos ar y safle, a'r trefniadau ar gyfer lletya, cynhaliaeth a lles yr anifeiliaid
- amcangyfrif o nifer a chategorïau'r staff y bwriedir eu cyflogi yn y sŵ
- amcangyfrif o nifer yr ymwelwyr a'r cerbydau y bwriedir darparu lle ar eu cyfer
- amcangyfrif o nifer y mynedfeydd y bwriedir eu darparu i'r safle, a'u safleoedd
- sut y bydd mesurau cadwraeth gofynnol yn cael eu rhoi ar waith yn y sŵ
O leiaf ddau fis cyn cyflwyno'r cais, rhaid i'r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o'r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o'r hysbysiad hwnnw. Rhaid i'r hysbysiad nodi lleoliad y sŵ a datgan bod hysbysiad o'r cais i'r awdurdod lleol ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.
Wrth ystyried cais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan neu ar ran:
- yr ymgeisydd
- prif swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasol
- yr awdurdod priodol - sef naill ai'r awdurdod gorfodi neu'r awdurdod perthnasol y bydd y sŵ yn cael ei lleoli yn ei ardal
- corff llywodraethu unrhyw fudiad cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithrediad sŵau
- yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y bydd y sŵ yn cael ei lleoli ynddi
- unrhyw unigolyn sy'n honni y byddai'r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy'n byw yn y gymdogaeth
- unrhyw un sy'n datgan y byddai'r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy'n byw gerllaw
- unrhyw unigolyn arall y gallai ei sylwadau awgrymu sail sy'n rhoi pŵer neu ddyletswydd i'r awdurdod wrthod rhoi trwydded
Cyn rhoi neu wrthod rhoi'r drwydded, bydd yr awdurdod lleol yn trefnu bod archwiliad yn cael ei gynnal gan filfeddyg arbenigol ac arolygwyr awdurdodedig eraill ac ati. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd o'r arolygiad. Yna, bydd yr awdurdod yn ystyried unrhyw adroddiadau gan yr arolygwyr ar sail eu harchwiliad o'r sŵ ac yn ymgynghori â'r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu hychwanegu at y drwydded.
Ni fydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r drwydded os yw o'r farn y byddai'r sŵ yn cael effaith andwyol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy'n byw gerllaw, neu'n cael effaith ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn neu os nad yw'n fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu'n foddhaol.
Hefyd, gallai cais gael ei wrthod:
- os nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod y llety, y trefniadau staffio neu'r safonau rheoli yn addas ar gyfer gofal a lles priodol yr anifeiliaid neu ar gyfer cynnal y sŵ yn briodol
- os yw'r ymgeisydd neu'r cwmni, os yw'r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, neu unrhyw rai o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sŵ, wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid
Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr ymgeisydd i gydymffurfio â'r amodau trwyddedu. Hefyd, gallai'r Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod lleol, gyfarwyddo'r awdurdod i ychwanegu un neu fwy o amodau at drwydded.
Gallai'r awdurdod lleol gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fach yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw yn y sŵ, neu gan mai nifer fach o fathau o anifeiliaid sy'n cael eu cadw yno, y dylid cyflwyno cyfarwyddyd nad oes angen trwydded.
Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael eu hystyried ddim hwyrach na chwe mis cyn bod y drwydded bresennol yn dod i ben, oni bai bod yr awdurdod lleol yn caniatáu cyfnod byrrach.
Pan fydd sŵ wedi'i thrwyddedu, byddwn yn cynnal archwiliadau fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu'r drwydded, a gallwn gynnal ymweliadau achlysurol hefyd. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i weithredwr y sŵ roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r busnes a darparu rhestr stoc flynyddol o unrhyw anifeiliaid a gedwir yn y sŵ.
Sylwer, gallai manylion unrhyw sŵ drwyddedig gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu'r manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.
Sylwer, bydd y broses gymeradwyo gyfan yn cymryd tipyn mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau ymgynghori ac arolygu angenrheidiol.
Apeliadau a Chwynion
Caiff deiliad trwydded apelio i Lys Ynadon yn erbyn:
- penderfyniad i wrthod rhoi trwydded
- unrhyw amod sydd ynghlwm wrth drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddileu amod
- penderfyniad i wrthod cymeradwyo trosglwyddo trwydded
- cyfarwyddyd i gau sŵ
- camau gorfodi yn ymwneud ag unrhyw amod sydd heb ei fodloni
Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y mae deiliad y drwydded yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod ynghylch y mater perthnasol.
Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. Mae mwy o wybodaeth am wneud cwyn i'w chael yn y fan hon.
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.