Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod angen trwydded i werthu anifeiliaid anwes, p’un ai’n safle masnachol neu ddomestig, a hynny dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (yn agor mewn tab newydd).
Mae hyn yn golygu bod yn RHAID i unrhyw un sy'n gwerthu anifeiliaid anwes (heblaw ar gyfer rhai gweithgareddau eithriedig penodol, y gallwn eu hesbonio'n fanylach ar gais) gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn dechrau eu busnes.
Daw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau’n Ymwneud Ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 (yn agor mewn tab newydd) i rym o 10 Medi 2021. Bydd y rheoliadau hyn yn newid y gofynion trwyddedu ar gyfer gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, sy'n cynnwys y gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti masnachol. Cyhoeddir gwybodaeth bellach maes o law.
Mae awdurdodau lleol yn pwyso a mesur nifer o ffactorau wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes, fel y gallwn sicrhau:
- y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft o ran tymheredd, maint, golau, awyr iach a glendid
- y bydd bwyd a diod digonol yn cael eu rhoi i'r anifeiliaid ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd
- na chaiff unrhyw anifeiliaid mamalaidd eu gwerthu'n rhy ifanc
- y bydd camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
- bod darpariaethau digonol ar waith os digwydd tân ac argyfyngau
Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer y safle a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd o ran diogelwch, a daw milfeddyg gyda ni lle y bo'n briodol i sicrhau y cyrhaeddir safonau lles anifeiliaid. Gellir ychwanegu amodau at drwydded i sicrhau cydymffurfiad â'r uchod.
Os ydych eisiau prynu anifail anwes, dylech wneud yn siwr bod trwydded yr awdurdod lleol yn cael ei harddangos gan y safle rydych chi'n prynu oddi wrtho, neu gallwch gysylltu â ni (drwy'r manylion isod) i gael manylion y safleoedd trwyddedig yn ardal Torfaen. Mae'n bwysig mai dim ond o safle trwyddedig rydych chi'n prynu eich anifail anwes, oherwydd rydym yn sicrhau bod yr anifeiliaid anwes o'r safleoedd hyn yn iach ac wedi cael eu mewnforio'n gyfreithlon neu eu bridio'n gywir, ac y byddwch yn cael cyngor da ar ofalu am eich anifail anwes.
Os ydych am wneud cwyn am wasanaeth a gawsoch gan siop anifeiliaid anwes, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor (yn agor mewn tab newydd) i chi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch lles anifeiliaid ar safle trwyddedig, neu os ydych chi'n pryderu y gallai safle fod yn gwerthu anifeiliaid anwes heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Rydym hefyd yn gallu bwrw golwg ar safonau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes yn gyffredinol gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded
Er mwyn rhedeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys pob enghraifft o werthu anifeiliaid anwes yn fasnachol, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy'n gwerthu anifeiliaid dros y we.
Ni chaiff pobl sy'n gwneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes fod wedi'u gwahardd rhag cadw siop o'r fath, a bydd angen iddynt gydymffurfio ag unrhyw amodau sy'n cael eu gosod fel rhan o'r drwydded.
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith
Crynodeb o’r rheoliad sy’n ymwneud â’r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)
Sut i ymgeisio
Os hoffech wneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes neu newid manylion trwydded sydd gennych eisoes, lawr lwythwch y ffurflenni isod:
- Cais am drwydded siop anifeiliaid anwes (yn agor mewn tab newydd)
- Amodau a chanllawiau'r drwydded ar gyfer siopau anifeiliaid anwes (yn agor mewn tab newydd)
- Atodlen siop anifeiliaid anwes (yn agor mewn tab newydd)
Ffïoedd ymgeisio
Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio
Y broses ymgeisio
Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg er mwyn asesu safonau eich safle.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol bwyso a mesur y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:
- y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft o ran tymheredd, maint, golau, awyr iach a glendid
- y bydd bwyd a diod digonol yn cael eu rhoi i'r anifeiliaid ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd
- na chaiff unrhyw anifeiliaid mamalaidd eu gwerthu'n rhy ifanc
- y bydd camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
- bod darpariaethau digonol ar waith os digwydd tân ac argyfyngau
Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.
Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn cynnal arolygiad blynyddol ar adeg adnewyddu'ch trwydded, a gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.
Sylwch, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan fel y gall cwsmeriaid ddewis safle trwyddedig i brynu eu hanifail anwes. Hefyd, gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.
Sylwch, gallai'r broses gymeradwyo gyfan gymryd mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau arolygu angenrheidiol.
Apeliadau a Chwynion
Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf.
Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.
Gall unrhyw ddeiliad trwydded gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon os caiff ei gais ei wrthod neu os yw'n gwrthwynebu amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded, a gallai'r Llys roi cyfarwyddyd ynghylch cyflwyno trwydded neu amod.
Cymdeithasau Masnach
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.