Mae Deddf Lletya Anifeiliaid 1963 yn mynnu bod llawer o sefydliadau sy'n cynnig llety i anifeiliaid yn cael eu trwyddedu, pa un a ydynt ar safleoedd masnachol neu ddomestig
Mae hyn yn golygu bod RHAID i unrhyw un sy'n cynnig llety i gathod a chŵn er budd masnachol gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn cychwyn eu busnes, a'u bod yn cynnal eu trwydded tra'u bod yn rhedeg y busnes.
Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer y safleoedd a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu diogelwch y safleoedd hyn yn rheolaidd a daw milfeddyg gyda ni i sicrhau bod y safle'n bodloni safonau lles anifeiliaid.
Dim ond cathod a chŵn sy'n dod o dan y ddeddfwriaeth lletya anifeiliaid ar hyn o bryd, ond rydym hefyd yn edrych ar safonau lletya ar gyfer anifeiliaid eraill mewn unrhyw safleoedd rydym ni'n eu harolygu.
Os ydych yn chwilio am lety i'ch cath neu gi, gwnewch yn siŵr fod y safle'n arddangos trwydded yr awdurdod lleol, neu gallwch gysylltu â ni i gael manylion safleoedd trwyddedig yn ardal Torfaen.
Os ydych am wneud cwyn am wasanaeth a gawsoch gan wasanaeth llety cŵn neu gathod, rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (a chael prawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn y Deyrnas Unedig, bydd Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyngor i chi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch amodau lles ar safle trwyddedig, neu'n pryderu y gallai safle fod yn lletya cŵn neu gathod heb drwydded, rhowch alwad i ni atom fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel y bo'r angen. Gallwn edrych ar safonau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes heblaw am gathod a chŵn hefyd, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Gwneud Cais am Drwydded
Crynodeb o'r Drwydded
Bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol i redeg llety cŵn neu gathdy. Bydd nifer y cŵn a chathod y ceir eu lletya yn cael ei nodi ar y drwydded ynghyd ag amodau penodol eraill.
Gall awdurdod lleol awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferydd i archwilio safle trwyddedig. Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.
Nodir isod fanylion y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i benderfynu a oes angen trwydded arnoch, a'r safonau trwyddedu y mae'n rhaid i chi eu bodloni. Mae'r broses adnewyddu yn defnyddio'r un ffurflen gais.
Gwybodaeth ac arweiniad ynglŷn â'r gyfraith
Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 (yn agor mewn tab newydd)
Gall ein amodau safonol ar gyfer sefydliadau lletya cath a chi i'w gweld isod:
- Amodau ar gyfer Sefydliadau Lletya Cath (yn agor mewn tab newydd)
- Amodau ar gyfer Sefydliadau Lletya Cath Cartref (yn agor mewn tab newydd)
- Amodau ar gyfer Sefydliadau Lletya Cŵn (yn agor mewn tab newydd)
- Amodau ar gyfer Sefydliadau Lletya Cartref Cŵn (yn agor mewn tab newydd)
Sut i wneud cais
Os hoffech wneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded sydd eisoes yn bodoli, gellir lawrlwytho'r ffurflen gais (yn agor mewn tab newydd) yma.
Mae'n rhaid bod ymgeisydd heb gael ei anghymhwyso rhag gwneud unrhyw un o'r canlynol ar adeg y cais:
- cynnal sefydliad lletya anifeiliaid
- cynnal siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
- cadw anifeiliaid dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954
- perchen ar anifeiliaid, cadw anifeiliaid, ymwneud â chadw anifeiliaid neu fod â hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid, neu gludo neu ymwneud â chludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
- perchen ar anifeiliaid, cadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006. Yn yr Alban, mae'n rhaid i ymgeisydd hefyd beidio â bod wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gydag anifeiliaid, gyrru anifeiliaid neu farchogaeth anifeiliaid, darparu gwasanaethau i anifeiliaid a fyddai'n golygu eu meddiannu, meddiannu anifail i gynnal unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir neu reoli anifeiliaid ar gyfer unrhyw ddiben arall
Ffioedd ymgeisio
Lawrlwythwch gopi o'r ffioedd ymgeisio.
Y broses ymgeisio
Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg fel y gellir asesu safonau eich safle. Byddwn yn dymuno sicrhau:-
- Y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas bob amser. Mae llety addas yn ystyried adeiladwaith a maint y llety, nifer yr anifeiliaid sydd i'w cadw ynddo, cyfleusterau ar gyfer ymarfer yr anifeiliaid, glanweithdra a thymheredd, golau ac awyriad.
- Y bydd bwyd, diod a deunyddiau gwelltach yn cael eu darparu ac y bydd yr anifeiliaid yn cael eu hymarfer ac yr ymwelir â hwy yn rheolaidd.
- Bod camau'n cael eu cymryd i atal a rheoli lledaeniad clefyd ymhlith yr anifeiliaid a bod cyfleusterau arwahanu wedi'u sefydlu.
- Bod digon o amddiffyniad yn cael ei ddarparu i'r anifeiliaid yn achos tân ac argyfyngau eraill.
- Bod cofrestr yn cael ei chadw. Dylai'r gofrestr gynnwys disgrifiad o'r holl anifeiliaid a dderbyniwyd, eu dyddiad cyrraedd a gadael, ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg gan un o swyddogion yr awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd.
Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.
Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn cynnal archwiliad bob blwyddyn wrth adnewyddu eich trwydded, ac mae'n bosibl y byddwn yn cynnal ymweliadau yn y cyfamser hefyd.
Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes. Sylwer y gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan, fel bod cwsmeriaid yn gallu dewis safle trwyddedig i letya eu hanifail anwes. Mae'n bosibl y bydd eich manylion yn cael eu rhannu â chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.
A yw Cydsyniad Mud yn berthnasol?
Nid yw cydsyniad mud yn berthnasol i'r drwydded hon, gan fod ystyriaethau budd y cyhoedd yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am eich cais.
Sylwer y gallai'r broses gymeradwyo gyfan gymryd mwy na 28 diwrnod, er mwyn caniatáu ar gyfer y prosesau arolygu angenrheidiol.
Apeliadau a Chwynion
Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw un o amodau'r drwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n ymdrin â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio wrth wrthod trwydded, neu ar gais. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno, petaech yn teimlo bod eich cais wedi'i brosesu'n amhriodol.
Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am drwydded neu amod sydd ynghlwm wrth drwydded, gyflwyno apêl i'w lys Ynadon lleol.
Cymdeithasau Masnach
- Yr Ymddiriedolaeth Gofal Anifeiliaid Anwes (PCT) (yn agor mewn tab newydd)
- Coleg Brenhinol y Milfeddygon (yn agor mewn tab newydd)
Sylwer - Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Y Cyngor) ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. I'r perwyl hwn, fe allai ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a chanfod twyll. Gallai'r Cyngor hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y rhan o'r wefan sy'n ymwneud â'r Fenter Twyll Genedlaethol.