Lleoliad

Y Briffordd, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 8HW

Amserau agor

Bydd gatiau'r fynwent yn cael eu hagor a'u cau tua’r amserau canlynol:

  • Yn ystod yr haf: agor 9am - cau 7pm
  • Pob amser arall: agor 9am - cau 5pm
Ymholiad mynwent (yn agor mewn tab newydd)

Cyrraedd yno

  • Car: Gellir cyrraedd rhannau o'r fynwent mewn car, ac mae lle i barcio ger y capel. Peidiwch â gyrru na pharcio ar y gwair
  • Bws: I gael gwybodaeth am lwybrau bysiau, rhowch glic ar Traveline Cymru (yn agor mewn tab newydd)
  • Trên: Mae Gorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd gerllaw
  • Beic: Mae'r fynwent ger Llwybr Beicio Cenedlaethol 49, 492 a’r llwybr beicio sy’n rhan o’r llwybr tynnu ger Camlas Mynwy ac Aberhonddu.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Mynwent Panteg ar gau i gladdedigaethau newydd.

Gellir cynnal claddedigaethau mewn beddau sydd eisoes yn bodoli.

Gellir gwasgaru gweddillion a amlosgwyd yn yr Ardd Orffwys gyda chaniatâd gwasanaeth y fynwent. Cysylltwch â swyddfa'r fynwent i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu.

Mae'r capel ar gau ac nid yw ar gael i'w logi oherwydd materion lleithder a thrydan sy’n parhau.