Lleoliad
Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân, Torfaen, NP44 7PF
Amserau agor
Bydd gatiau'r fynwent yn cael eu hagor a'u cau tua’r amserau canlynol:
- Yn ystod yr haf: agor 9am - cau 7pm
- Pob amser arall: agor 9am - cau 5pm
Cyrraedd yno
- Car: Mae mannau parcio, gan gynnwys parcio i'r anabl a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, o flaen Swyddfa'r Fynwent
- Bws: I gael gwybodaeth am lwybrau bysiau, rhowch glic ar Traveline Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Trên: Mae Gorsaf Reilffordd Cwmbrân tua 3 milltir i ffwrdd
- Beic: Mae’r fynwent ger Camlas Mynwy ac Aberhonddu, ac mae’r llwybr tynnu yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 492
Gwybodaeth ychwanegol
Mae swyddfa Gwasanaeth y Fynwent ym Mynwent Llwyncelyn. Mae ar agor rhwng 8am a 4pm, dydd Llun i ddydd Iau, ac 8am i 3.30pm ar ddydd Gwener. Mae'r swyddfa ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Mae toiledau cyhoeddus ar gael. Mae’r amseroedd agor yr un fath â'r swyddfa.
Mae Mynwent Llwyncelyn yn cynnig yr opsiynau claddu canlynol:
- Beddau lawnt - gyda chofebion
- Beddau ag ymylfaen - gyda chofebion
- Beddau gweddillion a amlosgwyd - gyda chofebion
- Ardal bwrpasol i fabanod - gyda chofebion
- Ardal gladdu’r ddôl - ni chaniateir cofebion
- Gardd Orffwys lle gellir gwasgaru gweddillion a amlosgwyd
Mae ardaloedd Claddu’r Ddôl a’r Ardd Orffwys ym mynwent Llwyncelyn yn rhan o'r Warchodfa Natur Leol ddynodedig, sydd â gwerth ecolegol uchel, felly ni chaniateir cofebion na blodau yn yr ardal hon.
Mae wal goffa a phlaciau gyda ffiolau y gellir eu prydlesu am 10 mlynedd. Cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent i gael mwy o wybodaeth.