Rydym yn deall bod beddau yn lleoedd pwysig ble y gall perthnasau a theuluoedd gofio eu hanwyliaid.

Caniateir yr eitemau canlynol i bersonoli beddau:

  • Planhigion llysieuol hyd at 50cm wedi eu plannu y naill ochr i gerrig beddau’r lawnt goffa
  • Blodau neu blanhigion mewn cynwysyddion naill ochr i gerrig beddau’r lawnt goffa
  • Tuswau o flodau dros dro i nodi achlysuron arbennig (cysylltwch â’r swyddfa i drafod)
  • Cofebion gan seiri maen cofrestredig BRAMM (rhaid bodloni gofynion o ran maint).
  • Addurniadau bach (nid rhai gwydr na seramig)
  • Tuswau tymhorol

Ni chaniateir yr eitemau canlynol ar feddau am resymau diogelwch ac amgylcheddol ac i sicrhau bod y fynwent yn fan tawel:

  • Eitemau ar y borfa o flaen neu y tu ôl i gofebion/gerrig beddau
  • Eitemau sy’n symud, goleuo neu’n gwneud sŵn
  • Ffensys, ymylon, canhwyllau heb oruchwyliaeth
  • Eitemau gwydr, seramig gan fod y rhain yn gallu torri/difrodi’n hawdd
  • Glaswellt artiffisial
  • Addurniadau pigog mewn ardaloedd babanod/ lle mae lludw yn dilyn amlosgiad
  • Hongian eitemau ar goed neu lwyni

Ble alla i osod eitemau?

Os yw eich anwylyd wedi'i gladdu mewn bedd lawnt, gallwch roi eitemau bob ochr i'r gofeb.

Os oes ganddynt fedd ag ymyl, rhaid rhoi’r eitemau y tu fewn i’r ymylon.

O ran gweddillion a amlosgwyd:

  • Blaenafon – y naill ochr i'r gofeb yn unig
  • Llwyncelyn a Phanteg – y naill ochr i’r gofeb ac ar y cerrig man ar y blaen (heb gyffwrdd y beddau eraill)

O ran beddau babanod:

  • Llwyncelyn – y naill ochr i'r gofeb ac ar y cerrig man ar y blaen (heb gyffwrdd y beddau eraill)
  • Blaenafon – y naill ochr yn unig

Eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu

Cysylltir â pherchnogion beddau yn ysgrifenedig a gofyn iddynt symud unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu. Bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu symud yn cael eu cymryd i ffwrdd a'u cadw mewn storfa am fis.

Bydd unrhyw eitemau pellach nad ydynt yn cael eu caniatáu ar y bedd yn cael eu symud heb rybudd.

Bydd unrhyw eitemau ger beddau, gan gynnwys mewn coed a gwrychoedd, yn cael eu symud gan staff y fynwent.

Bydd y staff yn tynnu torchau Nadolig oddi ar feddau ar ôl 31 Ionawr.

Cofebion

Gall saer maen coffa gynghori ar gofebion addas ar gyfer y fynwent o’ch dewis. Cyfrifoldeb perchennog y bedd yw cynnal cofeb. Dylai unrhyw waith lanhau neu atgyweiriadau gael ei wneud gan saer maen coffa.

Os bydd staff y fynwent yn gweld cofeb sy'n edrych yn ansefydlog, am resymau iechyd a diogelwch, byddant yn ei osod yn wastad ar y bedd.

I ofyn am arysgrif ar gofeb neu arysgrif ychwanegol, bydd angen i chi gysylltu â saer maen cofrestredig (BRAMM) (yn agor mewn tab newydd).

I brynu plac coffa ar fainc y fynwent, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.

Ymholiad mynwent (yn agor mewn tab newydd)