Gwasanaeth Mynwent y Cyngor sy'n gyfrifol am Fynwent Blaenafon, Mynwent Cwmbrân, Mynwent Llwyncelyn a Mynwent Panteg.

Mae'r swyddfa wedi'i lleoli ym Mynwent Llwyncelyn, Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân, Torfaen, NP44 7PF.

Dyma’r amserau agor:

  • Dydd Llun i ddydd Iau - 8am - 4pm
  • Dydd Gwener - 8am - 3.30pm

Sylwch fod y swyddfa ar gau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc.

Cynhelir claddedigaethau rhwng 10am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 10am a 2.30pm ar ddydd Gwener.

Ymholiad mynwent (yn agor mewn tab newydd)

Cynnal a chadw mynwentydd

Caiff beddau eu lefelu, a chaiff y borfa ei ailosod chwe mis ar ôl claddu. Defnyddir tyweirch yn ystod y gaeaf a hadau yn y gwanwyn a'r haf.

Os ydych chi am ailosod tyweirch neu ail-hau bedd anwylyd, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.

Mae’r borfa’n cael ei dorri ar gylch tair wythnos, rhwng mis Ebrill a mis Medi, fodd bynnag, gall fod oedi os bwriedir cynnal claddedigaethau pan fydd hi’n amser torri porfa. Mae porfa sy’n cael ei dorri yn cael ei adael i wasgaru’n naturiol.

Mae ardal y ddôl yn Llwyncelyn yn cael ei thorri unwaith y flwyddyn. Rheolir ardaloedd eraill sydd wedi eu dethol, i gefnogi bioamrywiaeth.

Os oes gennych bryderon am fedd sy’n suddo, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.

Sylwer, mae mynwentydd yn fannau claddu gweithiol – efallai y byddwch yn gweld beddau agored ar adegau a staff cynnal a chadw wrth eu gwaith. Ymdrechir bob amser i aflonyddu cyn lleied â phosibl ar ymwelwyr.

Berchen ar fedd

Gall unigolyn neu unigolion ar y cyd berchen ar fedd. Dim ond y perchennog neu'r perchnogion all benderfynu pwy sy’n cael ei gladdu yn y bedd, y math o garreg goffa ac unrhyw arysgrifau ychwanegol. Rhaid adnewyddu perchnogaeth ar feddau a brynwyd ar ôl Awst 2001, ar ôl 75 mlynedd, neu bydd y bedd yn dychwelyd i'r cyngor.

Os ydych yn dymuno trosglwyddo perchnogaeth bedd, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.

Ni ellir prynu beddau newydd cyn claddedigaeth.

Os ydych chi'n berchen ar fedd, rhowch wybod i Swyddfa'r Fynwent os yw eich cyfeiriad yn newid.

Ar ôl claddedigaethau

Ar ôl claddedigaeth, cymerir y camau canlynol:

Pentyrru: Ar ôl claddu arch, roddir pentwr o bridd ar y bedd i ganiatáu iddo setlo’n naturiol a bydd cyfnod monitro yn dilyn.

Tuswau o Flodau: Byddant yn cael eu symud oddi yno ar ôl 8 wythnos. Os hoffech inni eu symud cyn hynny rhowch wybod.

Beddau Lawnt: O leiaf 6 mis i setlo. Bydd mwy o bridd yn cael ei ychwanegu fel y bo angen. Os oes rafft, gellir gosod y garreg bedd pa bryd bynnag y bydd angen.

Beddau ag ymylon: O leiaf 12 mis i setlo oherwydd pwysau’r garreg bedd. Bydd mwy o bridd yn cael ei ychwanegu fel y bo angen

Lefelu Terfynol: Unwaith y bydd y bedd yn sefydlog, bydd yn cael ei lefelu a’i orffen:

Yn ogystal â hyn: Rhoddir tyweirch ar fedd lawnt yn ystod yr hydref a’r gaeaf a bydd pridd a hadau gwair yn cael eu osod yn ystod y gwanwyn a’r haf, fel eu bod yn tyfu’n raddol.

Efallai y bydd angen pridd ychwanegol ar fedd eich teulu i gyd-fynd â lefel y ddaear o’i amgylch. Os felly, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu hyn ar eich cyfer.