Pa mor aml mae'r blwch du yn cael ei gasglu?
Mae’r blwch du yn cael ei gasglu bob wythnos.
Beth sy'n mynd yn y blwch du?
Ar ba ddiwrnod caiff fy mlwch ei gasglu?
Gwirio diwrnod casglu bin (yn agor mewn tab newydd)Bin/blwch heb ei gasglu
Os oedd eich blwch yn y man casglu erbyn 6am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am fin/blwch heb ei gasglu a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl.
Dweud am gasgliad bin / ailgylchu a fethwyd (yn agor mewn tab newydd)Mae gen i ormod o eitemau ailgylchu i’w rhoi yn y blwch du, beth alla i wneud?
Gallwch ymweld ag un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu sy’n cadw stoc o flychau ailgylchu, bagiau, cadis a bagiau cadis os oes angen mwy arnoch. Gellir casglu uchafswm o ddau flwch ailgylchu, cadis neu fagiau ailgylchu bob ymweliad.
Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas, yn derbyn cymorth gyda chasgliadau, neu’n methu ymweld â’r hybiau am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais.
Gofyn am gynhwysydd ailgylchu (yn agor mewn tab newydd)A allaf i ailgylchu eitemau trydanol mawr ar stepen y drws?
Gall unrhyw beth llai na 30cm x 30cm x 30cm (rhyw 12 modfedd x 12 modfedd x 12 modfedd) gael ei ailgylchu yn y bocs du. Bydd rhaid mynd ag unrhyw beth mwy i Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu gallwch drefnu casgliad swmpus.
A allaf i roi mwy nag un eitem i’w casglu?
Mae lle cyfyngedig ar y cerbydau casglu, felly mae’n well os ydych yn rhoi’r eitem allan unwaith y bydd angen ei waredu, yn hytrach na’i storio hyd nes bod gennych sawl eitem. Os oes nifer o eitemau’n cael eu gadael allan, mater i’r casglwr fydd penderfynu a ydynt i gyd yn cael eu casglu, ac a oes digon o le ar y cerbyd.
A allaf I roi eitemau wrth ymyl y bocs ailgylchu?
Dylai eitemau gael eu gadael yn eich bocs ailgylchu du i’w casglu; mae hyn yn helpu gyda’r broses o gasglu ac yn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu colli’n ddamweiniol gan y criwiau. Dylid rhoi gwifrau/ceblau pŵer y tu fewn i’r eitem neu wedi eu clymu o gwmpas yr eitem. Ni ddylid gadael i geblau hongion o’r eitem.
I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?
Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru (yn agor mewn tab newydd).