Pa mor aml mae’r cadi brown yn cael ei gasglu?
Mae’r bwyd yn eich cadi brown yn cael ei gasglu bob wythnos.
Beth sy'n mynd yn y cadi brown?
Ie, os gwelwch yn dda
- Bagiau te a malurion coffi
- Plisg wyau
- Crwyn ffrwythau a llysiau
- Cig a physgod amrwd neu wedi’u coginio, gan gynnwys esgyrn
- Gweddillion bwyd
- Bwyd nad yw’n ddiogel ei fwyta mwyach
Dim diolch
- Pecynnu o unrhyw fath
- Hylifau fel llaeth
- Olewau neu frasterau hylif
- Unrhyw ddeunydd nad yw’n wastraff bwyd
- Dim bwyd anifeiliaid
Awgrymiadau
- Gallwch ddefnyddio bagiau siopa plastig o’r archfarchnad neu fagiau bara os nad oes gennych fagiau leinio cadi sydd ar gael am ddim gan y Cyngor
- Clymwch eich bagiau neu fagiau leinio gwastraff bwyd yn ddiogel
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwacáu eich cadi yn rheolaidd, rhag iddo ddrewi
- Bydd cau clawr eich cadi yn stopio pryfed rhag mynd i mewn, a stopi aroglau rhag dianc
- Caewch y clawr ar eich cadi gwastraff bwyd wrth ei roi allan i’w gasglu
Pa ddiwrnod bydd fy nghadi yn cael ei gasglu?
Gwirio diwrnod casglu bin (yn agor mewn tab newydd)- Calendr Casgliadau - Rownd A (yn agor mewn tab newydd)pdf file[91KB]
- Calendr Casgliadau - Rownd B (yn agor mewn tab newydd)pdf file[91KB]
- Calendr Casgliadau - Rownd C (yn agor mewn tab newydd)pdf file[91KB]
- Calendr Casgliadau - Rownd D (yn agor mewn tab newydd)pdf file[91KB]
Casgliadau a fethwyd
Os oedd eich cadi brown yn y man casglu erbyn 6am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl
Dweud am gasgliad bin / ailgylchu a fethwyd (yn agor mewn tab newydd)Mae angen cadi/bagiau cadi newydd arnaf, beth allaf ei wneud?
Gallwch ymweld ag un o'n hybiau casglu cynwysyddion ailgylchu sy’n cadw stoc o flychau ailgylchu, bagiau, cadis a bagiau cadis os oes angen mwy arnoch. Gellir casglu uchafswm o ddau flwch ailgylchu, cadis neu fagiau ailgylchu bob ymweliad.
Os ydych chi'n ddeiliad bathodyn glas, yn derbyn cymorth gyda chasgliadau, neu’n methu ymweld â’r hybiau am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais.
Gofyn am gynhwysydd ailgylchu (yn agor mewn tab newydd)Beth fydd yn digwydd i fy ngwastraff bwyd ar ôl iddo gael ei gasglu?
Ar ôl i ni gasglu eich gwastraff bwyd, mae'n cael ei gludo i gyfleuster prosesu arbennig lle mae'n cael ei drin mewn cynhwysydd caeedig. Wrth i’r bwyd ddadelfennu, mae’r tymheredd yn cael ei rheoli’n ofalus i sicrhau bod y cynnyrch gorffenedig wedi ei ddiheintio’n gyfan gwbl.
I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?
Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru (yn agor mewn tab newydd).