Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - pobl â nam meddyliol difrifol
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
Nid yw pobl sy'n cael eu hystyried yn rhai sydd â nam meddyliol difrifol yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo, ac ystyrir bod gan1 ohonynt nam meddyliol difrifol, bydd y bil yn cael ei gyfrifo i ystyried mai1 oedolyn yn unig sy’n byw yno. Byddai hyn yn golygu bod y bil yn 25% yn llai.
Os oes gan yr unig berson neu'r holl bobl sy'n byw yn yr eiddo nam meddyliol difrifol, byddant yn cael eu heithrio'n llwyr rhag y dreth gyngor.
Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - pobl â nam meddyliol difrifol
Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2025
Nôl i’r Brig