Rhoi gwybod am olau stryd neu bostyn golau diffygiol
Os ydych chi’n dod o hyd i broblem gyda golau stryd neu bostyn golau, er enghraifft os nad yw’r golau stryd yn gweithio, os yw’n fflachio, neu os yw ymlaen yn ystod y dydd, dylech gysylltu â ni. Hefyd, os ydych yn dod o hyd i olau stryd sydd wedi ei ddifrodi, dylech hefyd gysylltu â ni.
Os ydych am i'r adroddiad hwn gael ei gofnodi yn erbyn eich proffil cwsmer, a fyddech cystal â naill ai mynd ati i greu cyfrif trwy glicio 'cofrestru nawr' neu nodwch eich manylion presennol os oes eisoes gennych gyfrif. Fel arall, os byddai'n well gennych barhau heb fewngofnodi, cliciwch 'cyflwyno adroddiad yn ddienw'.
SYLWER: Os nad yw’r ffurflen isod yn ymddangos, ac os ydych wedi dewis 'cytuno' ar y faner cwcis, cliciwch ‘diweddaru’ i ail lwytho’r dudalen. Os wnaethoch chi glicio 'anghytuno' ar y faner cwcis, yn anffodus ni fydd y ffurflen yn llwytho. A fyddech cystal â golygu eich dewis gan ddefnyddio’r eicon preifatrwydd ar waelod y sgrin neu ddefnyddio’r fersiwn arall o’r ffurflen.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/05/2023
Nôl i’r Brig