Expo Cadwyn Gyflenwi B2B Torfaen 2026

Lleoliad
Parkway Hotel & Spa - Cwmbran - NP44 3UW
Categori
Busnes
Dyddiad(au)
29/09/2026 (08:30-12:00)
Cyswllt
alison@tsef.wales
Registration URL
https://www.eventbrite.co.uk/e/torfaen-b2b-supply-chain-event-2026-tickets-1993908577229?aff=ebdssbcitybrowse
Disgrifiad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mewn cydweithrediad â Fforwm Economaidd Strategol Torfaen a Busnes Cymru, yn falch o gynnal yr ‘Expo Cadwyn Gyflenwi B2B Torfaen’ diweddaraf
Gan adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiad yn Hydref 2025, bydd y digwyddiad hwn yn dod â phrynwyr a gwerthwyr o bob cwr o gymuned fusnes Torfaen ynghyd, gan ddarparu llwyfan i sicrhau busnes newydd, i leoleiddio cadwyni cyflenwi ac i gefnogi'r economi leol.

• A hoffai eich busnes feithrin perthnasoedd cryfach â chyflenwyr lleol a chynyddu eich gwariant lleol?

• Ydych chi eisiau gosod eich cynhyrchion neu wasanaethau o flaen busnesau sydd wedi ymrwymo i brynu'n lleol?
• Ydych chi eisiau dysgu sut i ddod o hyd i gontractau sector cyhoeddus, eu tendro a'u sicrhau?

Mae'r digwyddiad yn dechrau am 8.30am gyda rhwydweithio dros roliau brecwast a choffi, ac yna agoriad yr Expo a chyfres o sgyrsiau addysgiadol drwy gydol y bore, yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau.

E-bostiwch am wybodaeth ynghylch stondinau'r Expo (Sylwch fod nifer y stondinau Expo yn gyfyngedig)

Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2026 Nôl i’r Brig