Archebwch le ar y Clinig Busnes Uniongyrchol Torfaen hwn, sy'n benodol i'r sector, ar gyfer sesiwn un-i-un lle gallwch chi ddweud wrthym am eich cynlluniau, problemau a syniadau, a darganfod am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol i'ch busnes.
Mae hwn yn glinig busnes pwrpasol, sy'n benodol i'r sector, wedi'i anelu at fusnesau sy'n gweithredu o fewn y diwydiant bwyd ac arlwyo.
Yn y sesiwn, byddwch chi'n gallu cwrdd â chynrychiolwyr o Dîm Ymgysylltu Busnes Cyngor Torfaen, Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd Cyngor Torfaen, Tîm Gwydnwch Bwyd Cyngor Torfaen, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Gallwn ni helpu gyda chyngor a chanllawiau busnes cyffredinol, gan ddarparu mynediad hawdd at wasanaethau'r cyngor, dod o hyd i gyllid, cael cymorth gyda recriwtio a hyfforddiant, neu eich cyfeirio at ddigwyddiadau a rhaglenni busnes defnyddiol a buddiol, yn ogystal â threfnu atgyfeiriadau i'r sefydliadau yn y sefyllfa orau a all roi'r hyn sydd ei angen arnoch i gymryd y cam nesaf wrth dyfu a diogelu eich busnes ar gyfer y dyfodol.