Sgiliau Hanfodol: Hanes Lleol
Disgrifiad
Darganfod Chwedlau Lleol a Hybu Eich Sgiliau – Sesiynau Hanes Newydd yn Lansio yn Nhorfaen
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn falch i groesawu tiwtor hanes newydd sy’n angerddol dros Gwmbrân ac ardal ehangach Torfaen. Ar ôl archwilio pob cornel o'r gymuned, daw ein tiwtor â chyfoeth o wybodaeth leol a straeon diddorol i'w rhannu.
O ddechrau mis Tachwedd, rydym yn lansio dwy sesiwn ddifyr yn Y Pwerdy a Chanolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl, ble bydd cyfle i ddysgwyr:
- Archwilio chwedlau lleol
- Chwalu damcaniaethau poblogaidd
- Rhannu straeon a safbwyntiau
- Gwella sgiliau trafod, dadlau a llythrennedd mewn lleoliad hamddenol, anffurfiol
Mae'r sesiynau hyn yn berffaith i unrhyw un sy'n chwilfrydig am hanes lleol ac sy'n awyddus i fagu hyder mewn cyfathrebu a Saesneg – a’r cyfan oll mewn dosbarth bywiog, yn y gymuned.
Diddordeb? Ffoniwch 01633 647734 i gael gwybod mwy a chadw lle.
- Categori:
- Sgiliau Hanfodol
- Lefel
- None
Manylion y Cwrs
- Lleoliad:
- Canolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl
- Iaith:
- English
- Cost:
- Free
Amserlen y Cwrs
- Dyddiad Cychwyn:
- 20/10/2025
- Dyddiad Gorffen:
- 20/10/2026
- Expiry Date:
- 20/10/2027
Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2025
Nôl i’r Brig
Other courses in Essential Skills
© Copyright 2025 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen