Prydiau ysgol cynaliadwy

Mae Arlwyo Cynaliadwy i Ysgolion yn ymwneud â diwallu anghenion disgyblion heddiw heb niweidio cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae Tîm Prydiau Ysgol Torfaen yn credu’n gryf, yn y rhan fwyaf o bethau, gan gynnwys cynaliadwyedd, ein bod ni’n atebol dim ond i’n disgyblion. Wedi’r cyfan, mae’n amlwg y gall y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw effeithio ar ein disgyblion a’r gymuned ehangach mewn ffyrdd cadarnhaol neu negyddol dros y tymor hir.

Rydym yn gwybod na fydd ateb cyflym gyda chynaliadwyedd mewn arlwyo ysgolion.  Mae’n bwnc ANFERTH.  Ond rydym ni’n dîm cydnerth sy’n canolbwyntio, ac rydym wedi ymrwymo i’r siwrnai tymor hir.  Rydym yn ymwybodol iawn serch hynny o’r angen i fod yn onest yn ein mannau cychwyn ac yn dryloyw gyda’r hyn yr ydym yn gwneud, gan gyhoeddi targedau a llwyddiannau ystyrlon, cynyddol, gwirioneddol a gweladwy.

Bydd ein llwyddiannau/cynnydd yn 2023/24 yn cael eu diweddaru’n rheolaidd, rydym eisoes wedi cychwyn mewn rhai meysydd, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd yn ein gweithredoedd. Cliciwch ar y map siwrnai cynaliadwyedd er mwyn dilyn ein cynnydd ym mhob maes.

Rydym yn chwilio am adborth ac awgrymiadau gan ein disgyblion ynglŷn â’r hyn yr ydych chi’n credu y dylem fod yn ei dargedu. Danfonwch eich awgrymiadau os gwelwch yn dda at louise.gillam@torfaen.gov.uk. Eich dyfodol chi sydd gerbron.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Torfaen Catering

Tel: 01633 647723

Email: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig