Dietau Arbennig - Ysgolion Uwchradd

Fel rhywun sy'n darparu eich prydau ysgol, mae arlwyo yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifri i'r holl ddisgyblion. Bydd llawer o'r plant sy'n symud i'r Ysgol Uwchradd wedi arfer derbyn bwyd yn ein hysgolion cynradd yn flaenorol, gan ddefnyddio bwydlenni unigol arbennig a gynhyrchwyd gan ein dietegydd.

Mae'n bwysig gwybod bod darparu bwyd yn yr Ysgol Uwchradd i'r rheini ar ddiet arbennig yn wahanol i'r hyn y gallech fod wedi arfer ag ef yn yr ysgol gynradd.

  1. Nid yw cofnod arlwyo'r plentyn yn mynd gyda nhw i'r Ysgol Uwchradd. Felly, mae angen i'n cogyddion wybod a oes gan eich plentyn alergedd / anoddefgarwch neu unrhyw angen arall o ran ei ddiet. Dylai eich plentyn ddweud wrth y cogydd yn uniongyrchol os oes ganddo unrhyw angen dietegol arbennig. Os nad ydych yn hyderus y bydd eich plentyn yn gallu gwneud hyn ei hun, cysylltwch â'r swyddfa Arlwyo a gallwn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cyrraedd y cogydd.
  2. Gan fod arlwyo yn yr Ysgol Uwchradd yn arddull caffi gydag amrywiaeth eang o opsiynau (yn hytrach nag un pryd poeth penodol fel yn yr ysgol gynradd), ni chynhyrchir bwydlen arbennig. Yn lle, bydd ein cogyddion yn trafod ac yn gwneud trefniadau gyda'ch plentyn ynghylch yr hyn y gellir ei ddarparu / yr hyn yr hoffent yn unigol.
  3. Mae matrics alergen llawn yn cael ei gadw ym mhob cegin i'w ddefnyddio gan y cogydd ac mae ar gael i'ch plentyn. Rydym hefyd yn hapus i'w ddarparu i rieni pe byddent yn dymuno ei ddefnyddio gartref gyda'r disgybl wrth ei helpu i ddewis yn ddiogel.
  4. Alergeddau Cnau a Physgnau. Mae ein bwydlenni cynradd yn rhydd o gnau a physgnau ac nid yw bwydlenni cynradd yn cynnwys unrhyw gynhwysion 'a allai gynnwys' cnau neu physgnau. Mae eitemau'n cael eu gwerthu mewn Ysgolion Uwchradd sydd â rhybudd “gall gynnwys cnau / pysgnau”. Mae'r rhain wedi'u nodi'n glir ar y matrics alergenau a / neu gall y cogydd dynnu sylw atynt ar y safle. Ni chaniateir i’n cogyddion ddarparu unrhyw fwyd sydd â rhybudd “cynnwys” neu “gall gynnwys” i ddisgybl sydd wedi dweud fod ganddo alergedd i’r cynhwysyn penodol hwnnw.

Arlwyo ar gyfer disgyblion gyda diagnosis o Awtistiaeth

Mae Arlwyo Ysgolion Torfaen yn ymroddedig i wneud pob addasiad rhesymol a chefnogi disgyblion gyda diagnosis o awtistiaeth o ran defnyddio gwasanaethau prydau bwyd ysgol. Mae pob aelod o’n Staff Arlwyo wedi derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth. Cysylltwch â ni i gael copi o’n polisi "Arlwyo mewn ysgolion ar gyfer disgyblion gyda diagnosis o awtistiaeth" ac i drafod cymorth unigol gyda dietegydd y tîm ar y cyfeiriad ebost specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Manylion cyswllt os oes gennych gwestiynau pellach, bryderon neu os hoffech gymorth pellach

Cais am Ddiet Arbennig
Adran Arlwyo Torfaen
CAG Croesyceiliog
Y Briffordd
Cwmbrân
NP44 2HF

Ffôn: 01633 647723
E-bost: specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Arlwyo Torfaen

Ffôn: 01633 647723
E-bost: specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig