Rheoli Alergenau

Rydym yn ymfalchïo yn ein harferion rheoli alergenau rhagorol. Mae angen ymdrech sylweddol gan y tîm i gyd ac mae gan bob uned rolau a chyfrifoldebau unigryw. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod POB disgybl yn gallu cael eu bwyd yn ddiogel ac yn hyderus trwy gydol y diwrnod ysgol.

Hyfforddiant

Trwy Hyfforddiant ac Ail-hyfforddiant, sicrheir bod pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau unigol.

Mae POB Rheolwr Arlwyo a chogydd yn gwneud cwrs Lefel 3 Rheoli Alergenau wrth Arlwyo. Ein dietegydd/tiwtor cofrestredig sy’n cyflwyno’r cwrs ac mae wedi cael addysg ym maes Alergeddau Bwyd hyd at lefel Gradd MA ac wedi ennill achrediad allanol.

Mae pob aelod o staff yn cael cwrs mewnol ar alergenau bob 2 flynedd ac mae’r cwrs yn para dwy awr. Mae hyn yn cynnwys yr aelodau hynny o staff sydd â chymhwyster Lefel 3, ac unwaith eto mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno gan ein dietegydd.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys profi’r gallu i bennu pa alergenau sydd mewn bwydydd o’r labeli bwyd a’r matrics alergenau. Mae hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau ymarferol fel gwirio cynhwysion sy’n ein cyrraedd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth anawdurdodedig wedi cael ei ddefnyddio ynddynt yn lle’r cynhwysion arferol, camau ymarferol i atal croes-halogi a darparu ar gyfer y rheiny sy’n dilyn bwydlenni arbennig. Mae pob aelod o staff yn cwblhau prawf ysgrifenedig fel bod tystiolaeth o’u presenoldeb a’u dealltwriaeth.

Cadarnhad Meddygol dros Alergeddau

Nid ydym yn darparu ar gyfer alergeddau sydd wedi cael eu diagnosio’n bersonol. Mae gennym ddyletswydd gofal tuag at ein disgyblion i beidio â hepgor grwpiau bwyd pwysig yn ddiangen oherwydd gallai hynny effeithio ar dwf/ddatblygiad. Ymhellach, rydym eisiau gwybod bod rhieni yn cael cymorth gweithwyr iechyd proffesiynol i ddarparu ar gyfer unrhyw ddiffygion maeth sy’n codi am eu bod yn hepgor bwydydd penodol.

Mae arnom angen sicrhau hefyd fod ein cogyddion yn canolbwyntio 100% ar y rheiny sydd ag alergeddau, ac nad yw eu sylw yn cael ei dynnu oddi ar hynny er mwyn delio â disgyblion sy’n ffyslyd wrth fwyta ac sy’n hoffi/casáu/ffafrio bwydydd penodol. Yn anffodus, mae hynny’n gallu cael ei gyflwyno i ni fel “alergedd” ar adegau. Byddwn yn cynnig addasiadau rhesymol bob tro i’r rheiny â diagnosis o anhwylder bwyta neu Awtistiaeth, a hynny ar sail unigol.

Gyda chaniatâd clir rhieni, gall ein dietegydd gael mynediad uniongyrchol at gadarnhad o alergeddau gan y gweithiwr iechyd proffesiynol (a hynny ar yr un diwrnod yn aml), gan sicrhau nad oes unrhyw beth yn ein rhwystro rhag darparu bwyd yn brydlon ac yn ddiogel. Nid oes angen apwyntiadau gyda’r Meddyg Teulu na thalu am lythyron meddygol yn yr achos hwn.

Arddangosir arwyddion priodol ymhob man gweini yn ein neuaddau cinio i ddweud wrth ddisgyblion am holi ein staff am alergenau cyn archebu bwyd.

Asesiadau risg arlwyo ar gyfer disgyblion ag alergeddau

Ysgolion Cynradd

Mae ein dietegydd yn rheoli pob disgybl ag alergedd neu alergeddau niferus. Ceir sgwrs gyda rhieni a chofnodir manylion allweddol. Caiff bwydlenni eu llunio ar gyfer y disgyblion hyn a bydd y cogydd yn eu dilyn. Cyhoeddir Memo Cadarnhau hefyd gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer arlwyo diogel.

Ysgolion Uwchradd

Anogir disgyblion i ddechrau cymryd cyfrifoldeb dros eu dewisiadau bwyd. Maent yn tyfu i fyny ac yn cael eu paratoi at y byd go iawn. Nid yw’n ymarferol i ni lunio bwydlenni ar gyfer y disgyblion hyn oherwydd y cyfuniadau bwyd niferus a gynigir (mae gan ysgolion cynradd fwydlenni penodol). Anogir disgyblion i siarad â’r cogydd ac astudio’r matrics Alergenau gyda’i gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn dewis yn ddiogel. Wrth symud ymlaen o’r ysgol gynradd, mae’r dietegydd a/neu’r rhieni yn aml yn helpu gyda’r sgwrs/cyflwyniad cyntaf hwn.

Mae yna labeli PPDS ar bob eitem ‘codi a mynd’ a weinir yn ein Hysgolion Uwchradd (dros 100) ac maent yn cydymffurfio â Deddf Natasha. Diolch i’w phrofiad blaenorol o reoli labeli bwyd, mae ein dietegydd yn gallu ysgrifennu’r rhain o’r dechrau’n deg a’u diwygio ar yr un diwrnod os digwydd i gynhwysion neu frandiau newid.

Gwiriadau Swyddfa Gefn

Gweithiwn yn agos gyda’n cyflenwyr a darparwyr ein meddalwedd er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir a bod unrhyw newidiadau yn cael eu diweddaru a’u cyfathrebu gyda’n cogyddion mewn amser real.

Amgylchedd ehangach yr ysgol

Nid yw’r posibilrwydd i ddisgyblion fod yn agored i alergenau wedi ei gyfyngu at gegin a neuadd ginio’r ysgol. Gweithiwn gyda phenaethiaid pan fydd gofyn rheoli’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad ag alergenau yn amgylchedd ehangach yr ysgol – darparu llaeth am ddim, clybiau ar-ôl-ysgol, bwyd o’r cartref, gollwng bwydydd a diodydd yn ddamweiniol, teithiau ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod asesiadau risg ar gyfer yr ysgol gyfan yn ystyrlon.

Diwygiwyd Diwethaf: 31/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Arlwyo Torfaen

Ffôn: 01633 647723
E-bost: specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig