Bwydlenni Prydau Ysgol

Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ein bwydlenni, sydd wedi’u datblygu gan ein Rheolwyr Arlwyo, cogyddion a deietegwyr mewnol i sicrhau bod prydau yn ddeniadol, yn gytbwys o ran maeth ac yn cynnig gwerth da am arian. Mae'r disgyblion yn cael cynnig pryd o fwyd poeth cytbwys y dydd gyda phwdin, ac mae dŵr ffres ar gael bob amser. Mae'r bwydlenni'n canolbwyntio'n gryf ar ffrwythau, llysiau a salad ffres, ac mae amrywiaeth helaeth o opsiynau ar gyfer y bar salad ar gael bob dydd fel dewis arall yn lle pryd bwyd poeth y dydd sy'n golygu bod llawer o ddewis ar gyfer pryd o fwyd y bydd y plant yn ei fwynhau. Mae ein bwydlenni wedi'u cynllunio i fodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer ciniawau ysgol ac maen nhw’n cynnwys tua thraean o ofynion maethol dyddiol disgyblion ar gyfartaledd.

Faint y mae prydau ysgol yn ei gostio?

Prisiau presennol y prydau yw:

  • Babanod - AM DDIM
  • Iau - AM DDIM
  • Hŷn - £2.60

Gall teuluoedd ar incwm isel fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Beth sydd ar y fwydlen heddiw?

Bwydlen Gynradd

Mae ein bwydlen gynradd yn gweithredu ar draws pob ysgol gynradd yn Nhorfaen. Gellir lawrlwytho copi o Fwydlen Ysgolion Cynradd yma.

I gael gwybodaeth fanylach, gan gynnwys lluniau o seigiau, adborth gan ddisgyblion a sylwadau ein deietegydd ar bob pryd, cliciwch ar yr wythnos berthnasol ar y cylch bwydlenni isod:

Bwydlen Uwchradd

Mae ein bwydlen uwchradd yn gweithredu yn Ysgol Abersychan, Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Gwynllyw. Ar gyfer ysgolion Uwchradd eraill Torfaen, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol er gwybodaeth.

Gellir lawrlwytho copi o Fwydlen Ysgolion Uwchradd yma. Mae copi o Rhestr Brisiau Ysgolion Uwchradd ar gael hefyd.

Diwygiwyd Diwethaf: 30/10/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Bwyd Ysgol

Ffôn: 01633 647716

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig