Dietau Arbennig - Ysgolion Cynradd

Rydym yn gweithio'n galed yma yn Adran Arlwyo Ysgolion Torfaen i sicrhau bod ein bwydlenni'n flasus, maethlon ac yn cynnig gwerth am arian. Rydym hefyd yn ymdrechu i fod yn gynhwysol a darparu ar gyfer ein holl ddisgyblion.

Rydym yn sylweddoli nad yw un ddewislen yn addas i bawb, ac na fydd ein bwydlen safonol yn addas i rhai disgyblion. Rydym yn hyderus wrth ddarparu ar gyfer disgyblion sydd â gofynion meddygol penodol, fel alergenau, clefyd coeliag a diabetes. Rydym hefyd yn darparu ar gyfer disgyblion sydd angen bwydlen wahanol am rhesymau crefyddol, moesegol neu ddiwylliannol, fel llysieuol neu fwyd sydd heb gig ond yn cynnwys pysgod.

Mae gennym systemau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau ein bod yn darparu'n ofalus a diogel ar gyfer y rhai sydd angen diet arbennig. Mae hyn yn cynnwys cyflogi dietegydd i'w prosesu, gan gydweithio'n agos â rhieni / gwarcheidwaid a chydweithwyr y GIG.

Dietau am Resymau Meddygol

I ofyn am ddiet arbennig, a fyddech cystal â llenwi ffurflen gais ar gyfer dietau a ragnodwyd am resymau meddygol a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen. A fyddech cystal â sicrhau bod gweithiwr yn y proffesiwn meddygol yn cwblhau adran B neu eich bod wedi amgáu copi o lythyr meddygol diweddar yn cadarnhau’r diagnosis a’r diet angenrheidiol.

Mae angen cadarnhad meddygol er mwyn diogelu iechyd eich plentyn a sicrhau bod yna angen meddygol i gyfyngu ar eu diet. Gallai darparu diet cyfyngedig iawn heb angen meddygol fod yn niweidiol i'ch plentyn heb gymorth gweithiwr iechyd proffesiynol. Ni allwn brosesu eich cais nes ein bod wedi derbyn hyn.

Unwaith y byddwn wedi derbyn y ffurflen, byddwch yn derbyn diet arbennig i'ch plentyn drwy'r post / e-bost neu byddwn yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen allan atoch chi. Caniatewch hyd at 3 wythnos i'ch bwydlen gyrraedd.

Unwaith y byddwch wedi derbyn bwydlen eich plentyn, gofynnwn i chi gysylltu â ni i gadarnhau eich bod yn hapus gyda'r fwydlen a thrafod dyddiad cychwyn. Yna byddwn yn darparu copi o'r fwydlen i gogydd yr ysgol ac yn trafod gofynion eich plentyn gyda nhw.

Er mwyn amddiffyn iechyd eich plentyn, a fyddech cystal â rhoi cinio pecyn o'ch cartref iddo hyd nes y byddwch wedi cadarnhau'r dyddiad cychwyn.

Arlwyo ar gyfer Disgyblion gyda Diagnosis o Awtistiaeth

Mae Arlwyo Ysgolion Torfaen yn ymroddedig i wneud pob addasiad rhesymol a chefnogi disgyblion gyda diagnosis o awtistiaeth o ran defnyddio gwasanaethau prydau bwyd ysgol. Mae pob aelod o’n Staff Arlwyo wedi derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth. Cysylltwch â ni i gael copi o’n polisi "Arlwyo mewn ysgolion ar gyfer disgyblion gyda diagnosis o awtistiaeth" ac i drafod cymorth unigol gyda dietegydd y tîm ar y cyfeiriad ebost specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Bwytawyr Ffyslyd

Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau gan rieni / gwarcheidwaid ynghylch plant nad ydynt yn hoffi rhai bwydydd neu sy'n fwytawyr ffyslyd. Rydym yn eich cynghori chi / eich plentyn i reoli hyn eu hunain trwy'r hyn y maen nhw'n ei ddewis wrth y cownter. Mae'r bar salad ar gael ochr yn ochr â phryd poeth y dydd ac mae bob amser yn cynnig dewis eang o fwydydd a fydd, yn ôl pob gobaith, yn galluogi'ch plentyn i ddewis rhywbeth y mae’n ei hoffi, os nad ydynt yn mwynhau pryd y dydd.

Dietau arbennig am resymau crefyddol, diwylliannol neu foesegol

Byddwn yn gwneud ymdrech bob amser i ddarparu ar gyfer eich plentyn. Os yw eich plentyn yn dilyn diet llysieuol, heb gig neu bysgod am resymau crefyddol, diwylliannol neu foesegol yn unig, bydd dewis priodol ar gael ar ein bwydlen arferol bob tro. Os bydd angen bwydlen figanaidd arnoch chi, rhowch wybod i’r swyddfa, os gwelwch yn dda, i ni gael trefnu hyn.

Newidiadau i ofynion dietegol

Mewn llawer o achosion, gall plant dyfu allan o alergedd a / neu ganfod nad oes angen diet arbennig arnynt mwyach. Anfonwch lythyr neu e-bost i'r swyddfa arlwyo yn nodi'r newidiadau neu'n cadarnhau unrhyw newid o ran gofynion.

Plant sy’n cychwyn/ailgychwyn yfed llaeth

Yn anffodus, ni allwn ond ddarparu bwydlen safonol neu fwydlen heb laeth. Fe'ch cynghorir os ydych am ailgyflwyno llaeth, eich bod yn gwneud hynny yn y cartref lle gallwch fonitro'ch plentyn ac unrhyw adweithiau, yn agos.

Manylion cyswllt os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach a/neu i ddychwelyd ffurflenni

Cais am Ddiet Arbennig
Adran Arlwyo Torfaen
C.A.G Croesyceiliog
Y Briffordd
Cwmbrân
NP44 2H

Ffôn: 01633 647723
E-bost: specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 30/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Arlwyo Torfaen

Ffôn: 01633 647723
E-bost: specialdietrequest@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig