Arlwyo Ysgolion Cynradd

Cinio

Mae ots gennym ni am iechyd a lles ein plant. Felly, rydym wedi creu ystod o brydau ysgol sy'n cydymffurfio â safonau maeth, gan gynnwys amrywiaeth o seigiau cig coch a dofednod, pysgod olewog llawn omega-3, reis a phasta. Dadansoddir yr holl fwyd a diod yn ein hysgolion cynradd gan ddietegydd ein timau er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Rheoliadau a Safonau Maeth) (Cymru).

Mae ein prydau bwyd hefyd yn cynnig mwy o ddewis o ffrwythau, llysiau a salad ffres. Ac rydym, wrth gwrs, wedi lleihau'r cynnwys braster, siwgr a halen yn ein ryseitiau, tra'n cynyddu ffibr. Yn ogystal â hynny, rydym yn defnyddio dulliau coginio fel stemio a phobi i sicrhau bod maetholion yn cael eu cadw, ac i wella ansawdd a blas.

Mae ein bwydlenni ysgol ar gael yma.

Cynllun Clwb Brecwast Am Ddim

Mae gennym 24 o glybiau brecwast mewn ysgolion cynradd yn Nhorfaen gyda mwy na 1,000 o blant yn aros am frecwast ysgol am ddim bob diwrnod. Mae clybiau brecwast yn cynnig detholiad o rawnfwydydd, gan gynnwys uwd yn y misoedd oerach, llaeth, ffrwythau a sudd ffrwythau, tost a ffa pob ar dost ar brydiau, gan sicrhau bod ein disgyblion i gyd yn elwa o'r dechrau gorau i'r diwrnod, a'u bod yn barod i ddysgu.

Siop Ffrwythau a Bariau Salad

Mae "Siopau losin" yn perthyn i raddau helaeth i'r gorffennol. Ers tro bellach, mae Siopau Ffrwythau a Bariau Salad wedi bod ar waith mewn llawer o ysgolion cynradd, gan helpu i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd i'n disgyblion drwy gydol y diwrnod ysgol cyfan a newid arferion er gwell.

“Mae gennym siop ffrwythau, bar salad a chlwb brecwast. Rydyn ni hefyd yn cynnwys elfen o faeth yng nghyfarfodydd cyngor yr ysgol ac mae'r disgyblion yn frwdfrydig iawn ynglŷn â bwyta'r bwyd iawn. Rydym yn eu hannog nawr fel y gall eu helpu yn ddiweddarach mewn bywyd.” Paul Welsh, Pennaeth, Ysgol Gynradd Padre Pio

Cynllun llaeth ysgol

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod bod llaeth yn llawn o "stwff da" – egni, protein, calsiwm a fitaminau a mwynau eraill sy'n bwysig ar gyfer tyfiant a datblygiad, gan gynnwys esgyrn a dannedd cryf. Fel arlwywyr rydyn ni wedi cydnabod ers amser maith bwysigrwydd llaeth fel diod, ac mae pob un o'n disgyblion babanod a meithrin yn elwa o gael llaeth am ddim bob dydd.

Plant Bodlon

“Mae'r nifer uchel sy'n cael cinio ysgol, yr ychydig o wastraff a phlant hapus a bodlon yn tystio i'r ansawdd da a'r dewis eang o bob bwydlen cinio a gynigir bob dydd ac yn wythnosol.  Mae hyn ynghyd â'r staff cynnes, cyfeillgar sy'n adnabod ac yn gofalu am ein plant yn unigol yn gwneud amser cinio yn bleser yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam. Pob clod i Dîm Arlwyo Torfaen” Laura Perrett, Pennaeth

Diwygiwyd Diwethaf: 20/01/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Prydau Ysgol

Ffôn: 01633 647716

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig