Trosi eiddo i Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO)

Os ydych chi'n berchen ar eiddo, neu'n ystyried prynu eiddo ac yn bwriadu ei drosi i Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO), dylech ystyried a oes angen caniatâd cynllunio arnoch.

O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd)1987, mae angen caniatâd cynllunio unigol ar gyfer tai a rennir gyda thri neu fwy o ddeiliaid neu eiddo sydd wedi ei droi'n fflatiau neu fflatiau un ystafell. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cynllunio Torfaen ar 01495 762200 neu e-bostiwch planning@torfaen.gov.uk

Efallai y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch hefyd a bydd angen i chi ofyn am gyngor gan dîm Rheoli Adeiladu Torfaen ar 01495 762200 neu e-bost buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Os bydd modd trwyddedu’r Tŷ Amlfeddiannaeth bydd dal angen i chi fynd ati a gwneud cais am drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth(HMO).

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Iechyd y Cyhoedd

Ffôn: 01633 647295

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig