Gwerthiannau Cist Car- Gwneud Cais am Drwydded

Arwerthiannau Cist Car
Crynodeb o'r Drwydded

Er mwyn cynnal arwerthiant cist car, mae'n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd masnachu ar y stryd gan yr awdurdod lleol lle y cynhelir yr arwerthiant.

Meini Prawf Cymhwysedd

Nid oes darpariaeth mewn rheoliadau

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Rhaid i ymgeiswyr roi o leiaf un mis o rybudd i'r cyngor bwrdeistref o'u bwriad i gynnal arwerthiant cist car (neu ganiatáu i'w tir gael ei ddefnyddio ar gyfer arwerthiant cist car).

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) a chynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, ble a phryd y mae'n dymuno masnachu ac enw a chyfeiriad meddiannwr y safle hwnnw, os yw'n wahanol i'r ymgeisydd.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'r tîm trwyddedu.

 

Ffôn: 01633 647279
E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'r tîm trwyddedu.

 

Ffôn: 01633 647279
E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Byddem yn cynghori bob amser bod mewn achos o gwyn y cyswllt cyntaf yn cael ei wneud â'r masnachwr - a hynny'n ddelfrydol ar ffurf llythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych yn byw yn y DU, bydd y Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Safonau Masnach Torfaen hefyd yn cael cyngor Sêl Cist Car. O'r tu allan i'r DU cysylltwch â'r UK European Consumer Centre.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. Cysylltwch â'r tîm trwyddedu. 

 

Ffôn: 01633 647279

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Cymdeithasau Masnach

Dim

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/09/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647279

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig