Trwydded Amgylcheddol - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Amgylcheddol
Crynodeb o'r Drwydded

Mae'n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster rheoledig yng Nghymru neu Loegr.

 

Mae cyfleuster rheoledig yn cynnwys:

 

  • gwaith symudol neu osodiadau sy'n cyflawni gweithgareddau rhestredig
  • gweithrediadau gwastraff
  • gwaith symudol yn ymwneud â gwastraff
  • gweithrediadau gwastraff mwyngloddio

Mae gweithgareddau rhestredig yn cynnwys:

 

  • ynni - gweithgareddau llosgi tanwydd, nwyeiddio, hylifo a phuro
  • metelau - gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
  • mwynau - gweithgynhyrchu calch, sment, serameg neu wydr
  • cemegau - gweithgynhyrchu cemegau, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydron a swmp storio cemegau
  • gwastraff - llosgi gwastraff, rhedeg safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
  • toddyddion - defnyddio toddyddion
  • arall - gweithgynhyrchu papur, mwydion ac estyll, trin cynhyrchion pren, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd a ffermio moch a dofednod yn ddwys

Caiff gweithgareddau rhestredig eu rhannu'n dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B. 

 

Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sydd ag amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:

 

  • allyriadau i'r aer, i'r tir ac i ddŵr
  • effeithlonrwydd ynni
  • lleihau gwastraff
  • defnyddio deunyddiau crai
  • sŵn, dirgryniad a gwres
  • atal damweiniau

Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy'n achosi allyriadau i'r aer. 

 

Bydd y drwydded y mae ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol sydd ynghlwm wrth y gwaith a'r allyriadau a gynhyrchir o ganlyniad. 

 

Mae trwyddedau ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu eich awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) yn dibynnu ar y categori y mae eich busnes ynddo:

 

  • Caiff gwaith symudol neu osodiadau Rhan A(1) eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Caiff gwaith symudol neu osdiadau Rhan A(2) a Rhan B eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, heblaw gweithrediadau gwastraff a gyflawnir mewn gosodiadau Rhan B sy'n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Caiff gweithrediadau gwastraff neu waith symudol yn ymwneud â gwastraff a gyflawnir ar safle heblaw am safle gosodiad, neu gan waith symudol Rhan A neu Ran B, eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Caiff gweithrediadau gwastraff mwyngloddio eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y ffurflen a ddarperir gan y rheoleiddiwr, neu ar-lein, a rhaid cynnwys gwybodaeth benodedig a fydd yn amrywio yn ôl y gweithrediadau.

 

Gallai fod angen talu ffi. 

 

Os bydd angen mwy o wybodaeth, bydd y rheoleiddiwr yn hysbysu'r ymgeisydd a rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth neu ystyrir y bydd y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

Rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gan weithredwr y cyfleuster rheoledig. 

 

Yn achos gweithrediadau gwastraff, ni roddir trwydded oni bai bod unrhyw ganiatâd cynllunio eisoes wedi'i roi.

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Bydd y rheoleiddiwr yn rhoi sylw i amddiffyn yr amgylchedd o'i ystyried yn ei gyfanrwydd gan atal, yn benodol, allyriadau i'r aer, i'r tir ac i ddŵr, neu eu lleihau os nad yw'n ymarferol eu hatal.

 

Caiff y rheoleiddiwr roi gwybod i'r cyhoedd am y cais a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau. 

 

Rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gan weithredwr y cyfleuster rheoledig a rhaid i'r rheoleiddiwr fod yn fodlon bod rhaid iddynt weithredu'r cyfleuster yn unol â'r drwydded amgylcheddol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 4 mis ers i'r awdurdod lleol dderbyn bod y cais 'wedi'i wneud'. Caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os oes angen i'r awdurdod lleol ofyn am wybodaeth bellach gan yr ymgeisydd.

Gwneud cais ar-lein

Os ydych yn dymuno gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol neu newid manylion cofrestriad presennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen berthnasol isod:

 

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os gwrthodir rhoi trwydded amgylcheddol i ymgeisydd, caiff apelio i'r awdurdod priodol. Yr Ysgrifennydd Gwladol yw'r awdurdod priodol yn Lloegr, a Gweinidogion Cymru yng Nghymru. Rhaid cyflwyno apeliadau ddim hwyrach na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os gwrthodwyd cais i amrywio, trosglwyddo neu ildio trwydded amgylcheddol neu os yw'r ymgeisydd yn gwrthwynebu amodau a osodwyd ar y drwydded amgylcheddol, caiff apelio i'r awdurdod priodol.

 

Rhaid cyflwyno apeliadau'n ymwneud ag amrywiad gan reoleiddiwr, hysbysiad atal neu hysbysiad gorfodi, ddim hwyrach na dau fis o ddyddiad yr amrywiad neu'r hysbysiad ac, mewn unrhyw achos arall, ddim hwyrach na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Camau Unioni Eraill

Mae'n bosibl y bydd iawndal yn daladwy mewn perthynas ag amodau sy'n effeithio ar fuddiannau penodol mewn tir.

Cymdeithasau Masnach

Ffederasiwn y Cymdeithasau Masnach Amgylcheddol (FETA)

 

Comisiwn y Diwydiannau Amgylcheddol (EIC)

 

Cymdeithasau Gwasanaethau Amgylcheddol (ESA)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig