Trwydded Siop a Sinema Ryw - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Siop a Sinema Ryw
Crynodeb o'r Drwydded

I redeg siop ryw - hynny yw, unrhyw safle sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw - gallai fod angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol. I redeg lleoliad lle y mae ffilmiau cignoeth yn cael eu dangos i aelodau'r cyhoedd, bydd angen trwydded arnoch hefyd gan yr awdurdod lleol.

 

Fodd bynnag, cewch wneud cais i'r awdurdod lleol yn gofyn iddynt roi heibio'r gofyniad am drwydded.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'n rhaid bod ymgeisydd:

 

  • yn 18 oed o leiaf
  • heb fod wedi'i wahardd rhag dal trwydded
  • heb fod mewn sefyllfa lle y gwrthodwyd rhoi neu adnewyddu trwydded ar gyfer y safle dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf, oni bai bod apêl wedi gwrthdroi'r penderfyniad i wrthod
Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

 

Rheoliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Proses Gwerthuso Cais

Bydd yn rhaid talu ffi am geisiadau a gallai amodau fod ynghlwm.

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau'n ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) a rhaid iddynt gynnwys unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar yr awdurdod lleol, ynghyd ag enw a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os unigolyn yw'r ymgeisydd, ei oedran, ynghyd â chyfeiriad y safle.

 

Rhaid i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o'u cais trwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Gwneud cais ar-lein

You may apply for a sex shop and cinema licence via gov.uk.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, neu os gwrthodir adnewyddu trwydded, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am y penderfyniad i wrthod.

 

Fodd bynnag, nid yw'r hawl i apelio yn berthnasol os gwrthodwyd y drwydded ar sail y canlynol:

 

  • bod nifer fwy o sefydliadau rhyw yn yr ardal nag y mae'r awdurdod yn ei ystyried yn briodol
  • byddai rhoi'r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur y safleoedd eraill yn yr ardal, neu natur y safle ei hun 
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os yw deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod, gall apelio i Lys Ynadon lleol. Yn yr Alban, gall deiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i'r siryf lleol.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

 

Gall deiliaid trwydded wneud cais i'r awdurdod ar unrhyw adeg i amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau sy'n rhan o'u trwydded.

 

Os caiff cais am amrywio ei wrthod, neu os caiff y drwydded ei diddymu, gall deiliad y drwydded gyflwyno apêl i'r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am osod neu wrthod amrywio'r telerau, yr amod neu'r cyfyngiad dan sylw neu am ddiddymu'r drwydded.

 

Hefyd, gall deiliad trwydded apelio i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad gan Lys Ynadon.

Camau Unioni Eraill

Caiff unrhyw un sy'n gwrthwynebu cais am gyflwyno, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded gyflwyno eu gwrthwynebiad yn ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol, gan ddatgan sail y gwrthwynebiad, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cais.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647284

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig